Ar y 12 Gorffennaf 1936, llofruddiwyd un o wyr y chwith, José Castillo gan y Ffalangiaid. Y diwrnod wedyn dialodd y chwith am hyn trwy ladd José Calvo Sotelo, arweinydd yr wrthblaid. Yn dilyn hyn ceisiodd grŵp o swyddogion y fyddin gipio grym.
Y prif arweinwyr ymhlith y swyddogion a geisiodd gipio grym oedd José Sanjurjo, Emilio Mola a Francisco Franco. José Sanjurjo oedd wedi ei fwriadu fel yr arweinydd, ond fe'i lladdwyd mewn damwain awyren wrth hedfan o Bortiwgal i Sbaen, a daeth Franco yn arweinydd. Ar yr ochr arall, Arlywydd y Weriniaeth am y rhan fwyaf o'r rhyfel oedd Manuel Azaña, rhyddfrydwr gwrth-glerigol. Yr arweinwyr eraill oedd Francisco Largo Caballero ac yna o fis Mai 1937 ymlaen Juan Negrín, y ddau yn sosialwyr.
Cynlluniwyd ymdrech swyddogion y fyddin ym Morocco. Ar fore 17 Gorffennaf dechreuasant trwy gipio Melilla. Llwyddasant i gipio rhan o Sbaen yn syth (gweler y map) ond llwyddodd y llywodraeth i ffurfio grwpiau milisia i ymladd trostynt. Roedd y grwpiau yma yn cynnwys sosialwyr, comiwnyddion ac anarchwyr ymhlith eraill. Cyfeirir at y grwpiau oedd yn ymladd dros y llywodraeth fel y Gweriniaethwyr. Cyfeirir at y grwpiau adain-dde oedd yn cefnogi ymdrech Franco a'i gyd-swyddogion fel y Cenedlaetholwyr, ac roedd y rhain yn cynnwys y Ffalangiaid ac eraill.
Tair mlynedd o ryfela
Parhaodd yr ymladd am dair blynedd. Cafodd y cenedlaetholwyr gymorth gan yr Almaen a'r Eidal, tra cafodd y gweriniaethwyr gymorth gan yr Undeb Sofietaidd. Arhosodd y Deyrnas Unedig a Ffrainc yn niwtral, ond ymladdodd cryn nifer o'u dinasyddion dros y weriniaeth fel gwirfoddolwyr yn y Brigadau Rhyngwladol, yn eu plith nifer o Gymry.
Ymhlith erchyllderau y rhyfel, un o'r enwocaf oedd bomio dinas Guernica gan awyrennau yr Almaen, a goffhawyd gan Pablo Picasso yn ei ddarlun o'r un enw. Yn nyddiau cyntaf y rhyfel saethwyd tua 50,000 o bobl oherwydd iddynt gael eu dal yn y rhan o'r wlad oedd ym meddiant eu gwrthwynebwyr gwleidyddol. Yn eu plith yr oedd y bardd a'r dramodydd Federico García Lorca a saethwyd gan y Ffalangwyr yn Granada.
Yn y rhannau oedd yn perthyn i'r weriniaeth, yn enwedig lle'r oedd yr anarchwyr mewn grym, megis Aragón a Chatalwnia, newidiwyd dull byw merched Sbaen yn sylweddol iawn.
Yn y diwedd llwyddodd y cenedlaetholwyr i goncro'r gweddill o Sbaen, er i'r gweriniaethwyr ymladd yn ffyrnig. Credir i tua 500,000 o bobl gael eu lladd yn y rhyfel. Daeth Franco i rym, a rheolodd Sbaen tan ei farwolaeth.
Cymru a'r Rhyfel
Dan arweiniad Ffederasiwn Glowyr De Cymru, a'r Blaid Gomiwnyddol, cafwyd cefnogaeth yng Nghymru at Lywodraeth Weriniaethol etholedig y ffrynt Boblogaidd yn Sbaen ar ôl i fyddin Franco ymosod ar y llywodraeth honno. Ymunodd 174 o Gymry â byddin y weriniaeth ac un yn unig dros Franco. O Rhondda Cynon Taf y deuai'r rhan fwyaf, ardal lofaol, a daeth nifer hefyd o ardal lofaol Gogledd Cymru ac o gefn gwlad. Lladdwyd 33 ohonynt. Roedd y chwerwder a ddilynodd Streic Gyffredinol y Deyrnas Unedig 1926 a'u cefndir Comiwnyddol neu Sosialaidd yn gryf yn y dynion hyn, a gallent gyd-deimlo â dymuniad y gweriniaethwyr i ddileu yr anghyfartaledd rhwng dosbarth gweithiol a dosbarth uwch y tirfeddiannwyr a'r perchnogion ariannog.[1]
Yn dilyn arweiniad David Lloyd George ac academyddion prifysgolion, sefydlwyd cymdeithasau i groesawu blant ffoaduriaid o Wlad y Basg. Yn wahanol i'r rhan fwyaf o Gymru, fodd bynnag, gyda Franco yr ochrai Saunders Lewis.