Mae unrhyw broses biolegol sy'n arddangos osgiliad mewndarddol addasadwy o tua 24 awr yn cael ei ddehongli fel rhythm circadaidd. Mae'r rhythmau 24 awr hyn yn cael eu gyrru gan 'gloc circadaidd', ac maent i'w gweld mewn planhigion, anifeiliaid, ffwng, a cyanobacteria.[1]
Daw'r term circadaidd o'r Lladincirca, sy'n golygu "o amgylch" (neu "oddeutu"), a diēm, sy'n golygu "diwrnod". Mae'r astudiaeth o rhythmau biolegol amserol, fel y dyddiol, llanwol, wythnosol, tymhorol, a'r blynyddol, yn cael ei alw'n 'cronobioleg'. Mae prosesau gydag osgiliadau 24 awr fel arfer yn cael eu galw yn rhythmau dyddiol (Saesneg: diurnal rhythms). Nid ydynt yn rhythmau circadaidd yng ngwir ystyr y gair oni bai bod eu natur mewndarddol wedi'i chadarnhau.[2]
Er bod rhythmau circadaidd yn fewndarddol, maent yn cael eu haddasu i'r amgylchedd leol trwy giw allanol sy'n cael ei alw'n "zeitgeber" (o'r Almaeneg, "rhoddwr amser"). Er enghraifft, gall zeitgeber fod yn gylch golau, tymheredd neu rhydocs. Mewn gwyddoniaeth feddygol, mae rhythm circadaidd anarferol mewn bodau dynol yn cael ei alw'n 'anhwylder rhythm circadaidd'.[3]
Yn 2017, rhoddwyd Gwobr Nobel mewn Ffisioleg neu Feddygaeth i Jeffrey C. Hall, Michael Rosbash a Michael W. Young "am eu darganfyddiadau ym mecanweithiau molecwlaidd sy'n rheoli'r rhythm circadaidd" mewn pryfed ffrwythau.[4]