Hynafiaethydd, awdur topograffig a bardd o Gymru oedd Richard Fenton (Ionawr 1747 – Tachwedd 1821), a oedd yn frodor o Dyddewi, Sir Benfro.
Cofir Fenton yn bennaf am ei lyfrau topograffig am Sir Benfro a Chymru. Bu'n byw yn Llundain am gyfnod a daeth yn gyfeillgar â William Owen Pughe. Roedd yn aelod o'r Gwyneddigion a'r Cymmrodorion.
Llyfrau Fenton
- A Historical Tour through Pembrokeshire (1810)
- Tours in Wales 1804-13 (cyhoeddwyd am y tro cyntaf yn 1917)
- Poems (1790)
- A Tour in Quest of Genealogy (1811)
- Memoirs of an Old Wig (1815)