The Whetstone of Witte, The Ground of Arts, The Castle of Knowledge
Mathemategydd a meddygCymreig oedd Robert Recorde (tua 1512 – 1558). Ef oedd y cyntaf i ddefnyddio'r hafalnod '=', a hynny yn 1557. Ef hefyd oedd y cyntaf i gyflwyno'r symbol 'adio' neu 'plws' (+) i siaradwyr Saesneg, hefyd yn 1557.[1][2][3][4][5]
Ymgartrefodd yn Llundain fel meddyg a dywedir fod y brenin a'r frenhines ymhlith ei gleifion. Cafodd ei benodi'n bennaeth y bathdy ym Mryste yn 1549. Roedd yn gyfaill i'r mathemategydd, alcemydd ac athronydd Cymreig John Dee.
The Grounde of Artes, teachings the Worke and Practise, of Arithmeticke, both in whole numbers and fractions (c. 1540)
The Pathway to Knowledge, containing the First Principles of Geometry ... bothe for the use of Instrumentes Geometricall and Astronomicall, and also for Projection of Plattes (Llundain, 1551)
The Castle of Knowledge, containing the Explication of the Sphere both Celestiall and Materiall, etc. (Llundain, 1556)
The Whetstone of Witte, which is the second part of Arithmetike, containing the Extraction of Rootes, the Cossike Practice, with the Rules of Equation, and the workes of Surde Numbers. (Llundain, 1557). Dyma'r llyfr a gyflwynodd yr hafalnod a'r llyfr Saesneg cyntaf ar algebra.
The Urinal of Physick; Reynolde Wolfe; Llundain (1548).