Elastomer (polymerhydrocarbonelastig) yw rwber naturiol, sy'n ddeillio yn wreiddiol o ddaliant coloidaidd tebyg i laeth, neu latecs, sydd i'w ganfod mewn nodd rhai planhigion fel y llaethlys (Asclepiadaceae), y fflamgoed (Euphorbiaceae), pabïau (Papaveraceae), y dant y llew ac yn enwedig y planhigyn rwber (Ficus elastica) ac y goeden rwber (Hevea brasiliensis). Y sylwedd polyisoprene yw'r ffurf sydd wedi cael ei phuro, a ellir ei gynhyrchu'n synthetig yn ogystal. Defnyddir rwber naturiol yn helaeth mewn nifer o ddefnyddiau a chynnyrch, yn yr un modd â rwber synthetig.