Un o daleithiau ffederal (Länder) yr Almaen yw Saarland. Saif yn ne-orllewin y wlad, yn ffinio ar dalaith Rheinland-Pfalz ac ar Ffrainc a Lwcsembwrg. Roedd y boblogaeth yn 2007 yn 1,036,598. Prifddinas y dalaith yw Saarbrücken.
Mae'r dalaith yn cynnwys rhan o fynyddoedd yr Hunsrück. Y copa uchaf yw'r Dollberg (695 medr). Yr afon bwysicaf yw Afon Saar, sy'n rhoi ei henw i'r dalaith.