- Erthygl am y pentref yng Ngheredigion yw hon. Am ddefnydd arall o'r enw gweler Southgate.
Pentref ar gwr deheuol Aberystwyth, Ceredigion, yw Southgate[1] (Saesneg; ymddengys nad oes enw Cymraeg).[2] Fe'i lleolir yng nghymuned Llanfarian ar groesffordd ar y ffordd A487 ger Penparcau, rhwng Llanbadarn Fawr a Rhydyfelin. Saif Southgate ar dir rhwng afon Rheidol ac afon Ystwyth. Mae wedi dod yn faesdref allanol o Aberystwyth erbyn hyn.
Enwyd y pentref ar ôl tollborth deheuol Aberystwyth. Ailgodwyd adeilad y tollborth yn Amgueddfa Werin Cymru, Sain Ffagan.
Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Elin Jones (Plaid Cymru)[3] ac yn Senedd y DU gan Ben Lake (Plaid Cymru).[4]
Cyfeiriadau