Gelwir y pellter o'r tarddiad yn "gyfesuryn rheiddiol", neu "radiws", a'r ongl yn "gyfesuryn onglaidd", "ongl begynol" neu'n "asimwth".[1][2]
Hanes
Creeodd y seryddwr Hipparchus (190–120 BC) dabl o ffwythiannau'r cord (table of chord functions) gan roi hyd cord pob ongl, a cheir tystiolaeth iddo ddefnyddio cyfesurynnau pegynol wrth nodi lleoliad y sêr.[3] Yn ei lyfr Ar Sbiralau, disgrifiodd Archimedes yr hyn a elwir heddiw yn sbiral Archimedes, ffwythiant ble mae'r radiws yn dibynnu ar yr ongl; fodd bynnag ni ddisgrifiodd y system cyfesurynnau polar llawn, na'i ddiffinio. Yn y 17g cyflwynwyd y cysyniad o system cyfesurynnau polar gan ddau fathemategydd, yn annibynnol o'i gilydd: Grégoire de Saint-Vincent a Bonaventura Cavalieri.
Confensiynau
Dynodir y cyfesuryn rheiddiol yn aml gan r neu ρ, a'r cyfesuryn onglaidd gan φ, θ, neu t. Mae ISO 31-11 yn dynodi'r cyfesuryn onglaidd fel φ ond o fewn llenyddiaeth mathemategol, bron yn ddieithriad, defnyddir &theta yn hytrach na φ.
Y mynegiant arferol ar gyfer onglau yw naill ai 'gradd' neu 'radian' (2π rad = 360°). Defnyddir graddau o fewn fforio a mapio, defnyddir radianau o fewn mathemateg a ffiseg.[4]
↑Serway, Raymond A.; Jewett, Jr., John W. (2005). Principles of Physics. Brooks/Cole—Thomson Learning. ISBN0-534-49143-X.CS1 maint: multiple names: authors list (link)