Tai crefydd Cymru, hefyd mynachlogydd Cymru, yw'r adeiladau crefyddol ar gyfer cymuned o fynachod neu leianod yng Nghymru. Yn fras, gellir eu dosbarthu yn Abatai, sefydliadau gweddol fawr dan reolaeth Abad, a Phriordai, sefydliadau llai oedd fel rheol yn gysylltiedig ag abatai.
Y sefydliad nodweddiadol yn y cyfnod cynnar oedd y Clas. Defnyddir y gair 'mynachlog' i ddisgrifio'r clas, ond mewn gwirionedd roedd y sefyllfa'n amrywio o le i le ac o gyfnod i gyfnod. Yn sicr nid mynachlogydd yn yr ystyr gyffredin heddiw oedden nhw. Credir fod tri math o ffurfiau ar y bywyd cymunedol Cristnogol yn y Gymru gynnar. Roedd rhai meudwyon yn byw 'yn yr anialawch', mewn ogofâu er enghraifft, ar ben eu hunain neu gyda chwmni bach o ddisgyblion neu gyd-feudwyon. Roedd yna gymunedau mwy rheolaidd yn ogystal, gan amlaf yn trin y tir o gwmpas llan neu eglwys gynnar. Yn olaf roedd yna ganolfannau mawr fel Tyddewi, Llanbadarn Fawr, Clynnog Fawr a Llanilltud Fawr gyda chlerigwyr a mynachod. Yn aml iawn roedd y sefydliadau hyn yn ganolfannau dysg.
Roedd rheolau'r clasau Cymreig yn fwy llac o lawer nac yn y mynachlogydd diweddarach a sefydlwyd yng Nghymru gan y Sistersiaid ac eraill. Roedd abad y clas a chlerigwyr eraill yn rhydd i briodi a chael plant. Mewn canlyniad roedd yr abadaeth a swyddi pwysig eraill yn tueddi i fod yn etifeddol ac yn cael eu trosglwyddo o'r tad i'r mab, ffaith a syfrdanodd y mynachod Normanaidd cyntaf. Roedd aelodau'r clas yn perchen tir fel unigolion yn ogystal. Cymunedau oeddynt felly, yn hytrach na mynachlogydd ffurfiol. Roeddynt yn mwynhau nawdd brenhinoedd Cymreig ac roedd yn ddigwyddiad cyffredin i aelodau o'r teuluoedd brenhinol ymneilltuo i glas hefyd.
Urdd o fynachod a sefydlwyd yn yr 11g oedd y Sistersiaid. Eu henw poblogaidd yng Nghymru oedd 'Y Brodyr Gwynion', oherwydd eu gwisgoedd gwyn, mewn cyferbyniaeth â'r Benedictiaid yn eu gwisgoedd tywyll.
Cawsant eu cyflwyno i Gymru gan y Normaniaid. Tai crefyddol estron oeddynt i ddechrau, ac arosai rhai ohonyn nhw felly, yn arbennig yn y De a'r Mers. Ond yn y gorllewin a'r gogledd daethant yn rhan o'r diwylliant Cymreig gan chwarae rhan bwysig yng ngwleidyddiaeth yr oes. Codwyd nifer o abatai ganddyn nhw dan nawdd tywysogion Cymreig ac arglwyddi lleol Cymreig a Normanaidd.
Roedd pob un o'r tai Benedictaidd yng Nghymru yn y de, a phob un wedi ei sefydlu gan arglwydd Normanaidd, er i'r Arglwydd Rhys ail-sefydlu Aberteifi wedi gyrru'r mynachod estron ymaith. Roedd nifer ohonynt wedi eu rhoi yn eiddo i abatai yn Ffrainc, a phan waethygodd y berthynas rhwng Lloegr a Ffrainc yn ddiweddarach, dioddefodd priordai megis Allteuryn a Phenfro oherwydd eu bod yn eiddo i abatai Ffrengig.
Arweiniodd diddymiad y mynachlogydd yn ystod teyrnasiad y brenin Harri VIII at gau pob un o dai crefydd Cymru. Anfonodd y brenin gomisiynwyr allan i archwilio cyflwr y mynachlogydd a rhoddwyd eu hadroddiad ar werth y tai, y Valor Ecclesiasticus, iddo; ymhlith y goruchwylwyr yng Nghymru oedd Elis Prys (Y Doctor Coch) o Blas Iolyn. Mewn canlyniad caewyd 48 o dai yng Nghymru (bron y cyfan) yn 1536 ac erbyn diwedd y ddegawd doedd dim un fynachlog ar ôl.