Mae Thermopylae (Ynganiad [θə(r)'mɒpəli]), Groeg: Θερμοπύλαι ("Y Pyrth Poeth") yn fan ar arfordir dwyreiniol Groeg fu'n fangre nifer o frwydrau. Daw'r enw o ffynhonnau poeth sy'n dal i'w gweld yno.
Mae safle Thermopylae ar y brif ffordd sy'n arwain o'r gogledd i'r de rhwng Locris a Thessalia. Erbyn hyn mae gwastadedd rhwng llethrau'r mynyddoedd a'r môr, ond yn 480 CC pan ymladdwyd y frwydr enwocaf yma roedd y môr yn dod yn agos iawn at y mynyddoedd, gan adael dim ond bwlch cul, tua 14 medr o led yn ei fan gulaf. Oherwydd hyn roedd Thermopylae yn fan o bwysigrwydd strategol mawr wrth geisio amddiffyn yn erbyn ymosodiad o'r gogledd. Yr unig anfantais oedd fod llwybrau trwy'r mynyddoedd fyddai'n galluogi'r ymosodwr i ddod tu cefn i'r amddiffynwyr.
Y frwydr enwocaf oedd Brwydr Thermopylae yn 480 CC, pan lwyddodd nifer gymharol fychan o Roegiaid dan Leonidas, brenin Sparta, i wrthsefyll byddin Bersaidd enfawr dan Xerxes am rai dyddiau. Yn y diwedd bradychwyd cyfrinach y llwybr trwy'r mynyddoedd. Gwrthododd Leonidas a rhan o'i fyddin ffoi, gan ymladd hyd y diwedd.
Yn 279 CC ymosododd byddin o lwythau Galaidd dan Brennus ar Wlad Groeg. Llwyddodd byddin Roegaidd dan yr Atheniad Calippus i'w hatal yn Thermopylae am gyfnod, ond unwaith eto daeth yr ymosodwyr i wybod am y llwybrau trwy'r mynyddoedd a bu rhaid i'r Groegiaid encilio. Yn 191 CC ceisiodd Antiochus III Fawr amddiffyn y bwlch yn erbyn y Rhufeiniaid dan Manius Acilius Glabrio, ond gorchfygwyd ef gan y Rhufeiniaid.
Bu ymladd yma eto yn ystod Rhyfel Annibynniaeth Groeg. Yn 1821, ceisiodd y gwrthryfelwyr Groegaidd dan Athanasios Diakos wrthsefyll byddin Dwrcaidd o tua 8,000 oedd yn ceisio symud o Thessalia i ddelio a gwrthryfeloedd yn Roumeli a'r Peloponnese. Ceisiodd Diakos ddal gafael ar bont Alamana gyda dim ond 48 o wŷr, ond cymerwyd ef yn garcharor a'i ddienyddio.
Bu ymladd yn yr ardal eto yn ystod yr Ail Ryfel Byd, pan lwyddodd milwyr o Awstralia a Seland Newydd i ddal yr Almaenwyr yn ôl yn ddigon hir i'r fyddin Brydeinig encilio i Creta.