Awdur o Loegr oedd Syr Thomas Malory (tua 1405–14 Mawrth 1471). Ysgrifennodd y fersiwn fwyaf dylanwadol o'r chwedlau am y brenin Arthur yn y traddodiad Seisnig, Le Morte d'Arthur.
Bywgraffiad
Nid oes llawer o wybodaeth ar gael am Malory. Credai'r hynafiaethydd John Leland (1506–1552) mai Cymro ydoedd, ond barn y rhan fwyaf o ysgolheigion heddiw yw ei fod yr un person a'r Syr Thomas Malory o Newbold Revel yn Swydd Warwick.
Bu'n aelod o Senedd Lloegr, ond cafodd hefyd ei gyhuddo o amrywiol ddrwgweithredoedd. Dihangodd o'r carchar o leiaf ddwywaith, ac ni chafodd ei roi ar brawf erioed ar y cyhuddiadau yn ei erbyn. Cred rhai ei fod yn offeiriad.
Cyfeiriadau