Mae tomwellt (Saesneg: mulch) yn enw ar ddeunydd organig a roir ar bridd ac wrth wraidd neu foncyff planhigion er mwyn gwella a diogelu'r pridd oddi tano a gwella a hirhau bywyd tyfu a ffrywthnlon y planhigyn sy'n ganolbwynt i'r tomwellt.[1] Mae'n hen arfer amaethyddol a geir sawl gwahanol ffurf arni gyda thechnoleg a hefyd mewn modd paramaethyddol.
Pwrpas tomwellt
Arbed y pridd rhag ei erydu gan wynt neu ormod o ddŵr neu ddiffyg dŵr/sychder
Rheoli a chymhedroli tymheredd y ddaear - cynyddu pan fydd tymheredd yn oer, lleihau pan fydd yr haul yn gras
Rheoli ac arbed y planhigyn targed rhag tŵf a lledaeniad chwyn a nacáu gallu y chwyn i egino
Arbed y planhigyn targed rhag mynd yn frwnt wrth gyffwrdd â phridd
Lleihau anweddiad ac amddiffyn dad-hydriad
Cynyddu ffrwythlondeb y pridd
Denydd a ddefnyddir fel tomwellt
Gellir defnyddio amrywiaeth o ddeunydd organig neu fwy neu lai unrhyw beth. Y deunydd mwyaf defnyddiol yw:
Gellir hefyd ddefnyddio deunydd diwydiannol a ddefnyddir ar ffermydd amaethyddol ffrwythau a llysiau maint masnachol yn aml:
plastig (polywrethan, finyl polychlorid, mathau eraill o blastig), blancedi thermal.
Tomwellt ar gyfer adferiad tir crin
Bydd lladmeryddion dulliau amaethu paramaethu a defnyddio dŵr yn ddarbodus, fel Geoff Lawton a Neal Spackman yn tanlinellu rhan greiddiol tomwelltu ar gyfer gwella tir (a thir heli yn arbennig) sydd wedi dirywio o ganlyniad i or-bori, sychder a cham-reoli. Nodant ei fod yn ffordd rhad, ecolegol a hunangynhaliol o wella cnwd yr amaethwr a hynny heb ddefnyddio chwynladdwyr na defnyddio cemegion.[2] Byddant yn gwneud defnydd o domwellt wedi eidaenu mewn swêl.[3][4]
Gwneir defnydd o lenyddiaeth yr Almaenes, Gertrud Franck a'i llyfr Companion Planting: Successful Gardening the Organig Way[5]