Safle caer Rufeinig a phlasdy hanesyddol yng nghanolbarth Ceredigion yw'r Trawscoed. Mae'n gorwedd ym mhlwyf Llanafan a chymuned Trawsgoed, ar lan afon Ystwyth, tua 3 milltir i'r dwyrain o bentref Llanilar.
Caer Rufeinig y Trawscoed
Darganfuwyd caer y Trawscoed yn 1959. Mae'n gorwedd ar darn o dir gwastad ar lan ogleddol afon Ystwyth (cyfeirnod OS: 670 727). Mae'n amlwg iddi gael ei chodi gan y Rhufeiniaid i warchod rhyd bwysig ar Sarn Helen, y ffordd Rufeinig bwysicaf yng ngorllewin Cymru, sy'n cysylltu caer Rufeinig Caerhun yn y gogledd a dinas gaerog Maridunum yn y de. Mae'n gorwedd tua hanner ffordd rhwng caer Pennal i'r gogledd a Llanio i'r de. Damcaniaethir fod ffordd Rufeinig arall yn rhedeg rhwng y Trawscoed a chaerau Caersws, gyda chaer fechan Cae Gaer yn ddolen rhyngddyn nhw.
Mae llwybr y B4575 fodern yn rhedeg trwy'r safle. Mae'r gaer yn mesur tua 2 hectar. Dim ond olion y muriau allanol - o dywarch a phren yn wreiddiol - sydd i'w gweld. Credir mai byr fu parhad y gaer ar ôl iddi gael ei chodi yn negawdau olaf y ganrif 1af OC.
Plasdy'r Trawscoed
Codwyd plasdy'r Trawscoed chwarter miltir i'r gogledd o'r gaer Rufeinig yn yr 16g. Am ganrifoedd bu'n gartref i'r Fychaniaid, un o deuluoedd uchelwrol hynaf Ceredigion. Yr aelod enwocaf o'r teulu efallai oedd Syr John Vaughan, a urddwyd yn farchog yn 1668.
Cyfeiriadau
- T. I. Ellis, Crwydro Ceredigion (Cyfres Crwydro Cymru, 1953)
- Christopher Houlder, Wales: an Archaeological Guide (Llundain, 1978)
- I. A. Richmond, 'Roman Wales' yn Prehistoric and Early Wales (Llundain, 1965)