Yn dilyn daeargryn 11 Mawrth 2011 ffrwydrodd adeilad gwarchodol dau o'r chwech adweithydd niwclearatomfa Fukushima Dai-ichi a gaiff ei reoli gan TEPCO. Cododd lefel ymbelydredd led-led Japan a danfonwyd pobl o'u cartrefi o fewn radiws o 30 km. Mae 5 o weithwyr y cwmni wedi marw o ganlyniad i'w hymdrechion i wneud yr adweithyddion yn saff.[1]