Y twll du goranferthol tu fewn i gnewyllyn y galaeth hirgylchol goranferthol Messier 87 yng nghytser Virgo. Amcangyfrif fod ei fás yn biliynau o weithiau yn drymach na'r Haul[1] Hwn oedd y twll du cynta i'w ddelweddu yn uniongyrchol gan Delesgôp Event Horizon (ryddhawyd y llun ar 10 Ebrill 2019).[2][3]
Yn ôl damcaniaeth perthnasedd cyffredinolEinstein rhan o'r gofod yw twll du lle na all unrhyw beth (gan gynnwys golau) ddianc, o herwydd y duwch hwn y cafodd ei enw. Yr hyn sy'n atynnu popeth tuag ato yw disgyrchiant cryf, a phan fo rhywbeth yn cael ei sugno i'r twll, ni all fyth ddod oddi yno. Ceir ymyl, neu ffin, i'r twll du, sef yr union bwynt o ble na ddaw dim yn ôl, a gelwir y ffin hwn yn "orwel y digwyddiad".
Caiff y twll du ei greu o ganlyniad i ddadfeiliad amser-gofod a achosir gan gywasgedd màs. Pan na all seren ehangu rhagor, a'r egni oddi fewn yn dod i ben (egni a fu'n gwrthweithio yn erbyn disgychiant) mae'n crebachu'n llai ac yn llai ac yn y diwedd yn ffurfio twll du. Ceir cymaint o fas mewn cyn lleied o gyfaint, fel na all golau ddianc ohono.
O dan reolau neu ddamcaniaeth mecaneg cwantwm, mae i'r twll du dymheredd ac mae ymbelydredd Hawking yn cael ei allyrru ohonynt. Mae'r tymheredd hwn, fodd bynnag, yn is na thymheredd yr ymbelydredd cefndirol. Er ei fod yn anweledig, gall y seryddwr ei adnabod oherwydd y ffordd mae'r gwrthrychau sydd o'i gwmpas yn symud ac yn ymateb iddo. Pan fo cwmwl o nwy yn cael ei 'sugno' i mewn iddo, gwnaiff hynny mewn siâp sbiral gan allyrru llawer o ymbelydredd a gaiff ei fesur gan delesgopau ar y Ddaear.
Ar 11 Chwefror 2016, cyhoeddodd prosiect LIGO y darganfyddiad uniongyrchol o donnau ddisgyrchol, oedd hefyd yn cynrychiol y darganfyddiad cyntaf o gyfuniad twll du.[4] Hyd at Rhagfyr 2018, darganfyddwyd 11 ton ddisgyrchol a ddeiliodd o gyfuniadau tyllau du (ac un cyfuniad o gyfuniad seren niwtron ddeuol).[5][6] Ar 10 Ebrill 2019, cyhoeddwyd y ddelwedd uniongyrchol cyntaf erioed o dwll du yn Messier 87, yn dilyn arsylwadau wnaed gan Delesgôp Event Horizon yn 2017.[7]
Mae twll du yn rhanbarth o ofod gofod sy'n arddangos cyflymiad disgyrchiant mor gryf fel na all dim - dim gronynnau neu hyd yn oed ymbelydredd electromagnetig fel golau - ddianc ohono.
↑Oldham, L. J.; Auger, M. W. (March 2016). "Galaxy structure from multiple tracers - II. M87 from parsec to megaparsec scales". Monthly Notices of the Royal Astronomical Society457 (1): 421–439. arXiv:1601.01323. Bibcode2016MNRAS.457..421O. doi:10.1093/mnras/stv2982.