Drama radio enwog 'ar gyfer lleisiau' gan Dylan Thomas a gyhoeddwyd yn 1954 yw Under Milk Wood. Fe'i haddaswyd yn ddrama lwyfan yn ddiweddarach a'i gwneud yn ffilm yn 1971. Mae'r ddrama yn defnyddio barddonaeth fel cyfrwng; mae'n disgrifio digwyddiadau un diwrnod yn unig ym mhentref dychmygol Llareggub. Mae'n fwy na phosib fod nifer o'r cymeriadau'n seiliedig ar bobl go-iawn a oedd yn byw yn Nhalacharn.
Cyfieithwyd y ddrama i'r Gymraeg gan T. James Jones dan y teitl Dan y Wenallt.
"Llareggub" yw "buggerall", o'i ddarllen am yn ôl, enghraifft o hiwmor Dylan.