Roedd Flavius Placidius Valentinianus (2 Gorffennaf419 – 16 Mawrth455), a adnabyddir hefyd fel Valentinian III, yn Ymerawdwr Rhufain yn y gorllewin (425–455).
Bu farw Honorius yn 423, a chipiwyd grym yn Rhufain gan Joannes. Enwyd Valentinian fel Cesar gan Theodosius, a threfnodd iddo briodi ei ferch Licinia Eudoxia. Yn 425, wedi i Joannes gael ei orchfygu, sefydlwyd Valentinian yn Ymerawdwr Rhufeinig yn y gorllewin, yn chwech oed.
Gan ei fod mor ieuanc, roedd yr ymerodraeth yn cael ei rheoli'n gyntaf gan ei fam, yna ar ôl 433, gan y Magister militumFlavius Aëtius. Colli tir wnaeth yr ymerodraeth dan Valentinian; cipiwyd talaith Affrica gan y Fandaliaid yn 439; ildiwyd Prydain yn derfynol yn 446 a chollwyd rhannau helaeth o Sbaen a Gâl i'r barbariaid. Ar y llaw arall, enillodd Aëtius fuddugoliaeth fawr dros yr Hyniaid dan Attila ger Chalons yn 451.
Yn 454 llofruddiwyd Aëtius gan Valentinian ei hun. Sylw un o'i gyfoeswyr oedd ei fod fel dyn oedd wedi defnyddio ei law chwith i dorri ei law dde i ffwrdd. Ar 16 Mawrth y flwyddyn wedyn, llofruddiwyd yr ymerawdwr ei hun gan ddau o ŵyr Aëtius.