William Jones |
---|
Ganwyd | 1764 Cynwyd |
---|
Bu farw | 2 Mai 1822 |
---|
Dinasyddiaeth | Cymru |
---|
Galwedigaeth | Liedermacher, emynydd |
---|
- Am bobl eraill o'r un enw, gweler William Jones.
Emynydd Cymraeg oedd William Jones (1764 – 2 Mai 1822). Roedd yn frodor o Feirionnydd. Ysgrifennodd sawl emyn, yn cynnwys 'Dyma iachawdwriaeth hyfryd'.
Bywgraffiad
Ganed William Jones yng Nghynwyd ond symudodd i fyw yn Y Bala lle treuliodd y rhan fwyaf o'i oes gan ddod yn ffigwr adnabyddus yn y dref ar adeg pan y'i hystyrid yn "brifddinas Methodistiaeth" Gogledd Cymru dan "deyrnasiad" Thomas Charles o'r Bala. Gwehydd oedd wrth ei grefft. Cyhoeddwyd cyfrol o'i emynau yn 1819.[1]
Llyfryddiaeth
- Aberth Moliant neu Ychydig Hymnau (1819).
Gweler hefyd
Cyfeiriadau
- ↑ Meic Stephens (gol.), Cydymaith i Lenyddiaeth Cymru.