Cyrhaeddodd y Portiwgaliaid Angola ar ddiwedd y 15g. Yn raddol cawsai'r wlad ei meddiannu ganddynt a'i throi'n drefedigaeth Bortiwgalaidd. Arosodd dan reolaeth Portiwgal hyd 1975 (ac eithrio cyfnod byr ym meddiant yr Iseldiroedd o 1641 hyd 1648).
Yn 1951 cafodd ei gwneud yn Dalaith Dramor ac felly'n rhan integreiddiedig o Bortiwgal. Yn ystod y 1950au a'r 1960au tyfodd cenedlaetholdeb Angolaidd a ffurfiwyd tri mudiad annibyniaeth: yr MPLA (Mudiad Poblogaidd dros Ryddid i Angola), yr FNLA (Ffrynt Cenedlaethol dros Ryddid i Angola) ac UNITA (Undeb Cenedlaethol dros Ryddid Llwyr i Angola).
Yn 1974 cytunodd Portiwgal mewn egwyddor i roi annibyniaeth i'r wlad, ond yn wyneb anghydfod rhwng y tri mudiad annibyniaeth a gwrthwynebiad yr ymsefydlwyr Portiwgalaidd torrodd rhyfel cartref allan rhwng y carfanau hynny. Meddianwyd gwahanol rannau o'r wlad gan bob un o'r carfanau arfog. Pan grantiwyd annibyniaeth y canlyniad oedd i'r MPLA gyhoeddi ei llywodraeth ei hun yn Luanda dan yr enw Gweriniaeth Pobl Angola ac i'r FNLA a'i cynghreiriaid UNITA gyhoeddi Gweriniaeth Ddemocrataidd Pobl Angola â'i phrifddinas yn Huambo. I gymhlethu'r darlun, roedd yr MPLA yn cael ei cefnogi gan yr Undeb Sofietaidd a Ciwba tra roedd yr FNLA yn cael cefnogaeth yr Unol Daleithiau a rhai gwledydd Ewropeaidd. Cafodd UNITA gryn gefnogaeth gan lywodraeth apartheidDe Affrica. Am gyfnod anfonodd Ciwba filwyr i helpu'r MPLA ac aeth Che Guevara ei hun yno i helpu'r llywodraeth newydd. Enillodd y MPLA yn y diwedd ond cafodd y rhwygau a achoswyd gan y rhyfel effaith hir-dymor ar fywyd gwleidyddol ac economaidd y wlad.
Mae Angola'n mwynhau cyfoeth o adnoddau mwynol, yn cynnwys olew, haearn a deiamwntau. Mae tyfu coffi ar gyfer y farchnad dramor yn elfen bwysig yn economi'r wlad yn ogystal.