Brwydrau'r Llychlynwyr yng Nghymru
|
|
Brwydr a ymladdwyd ger Llandudno yn 856 oedd "Brwydr Llandudno".
Roedd Rhodri Mawr yn wynebu pwysau gan yr Eingl-Sacsoniaid ac yn gynyddol gan y Daniaid hefyd, a oeddent yn ôl y croniclau yn anrheithio Môn yn 854. Yn 856 enillodd Rhodri fuddugoliaeth nodedig dros y Daniaid gan ladd eu harweinydd Gorm (a elwir weithiau yn Horm). Mae dwy gerdd gan Sedulius Scotus wedi ei hysgrifennu yn llys Siarl Foel, brenin y Ffranciaid Gorllewinol, yn dathlu buddugoliaeth "Roricus" dros y Llychlynwyr.
Yn ôl rhai, cofir am fuddugoliaeth y Cymry yn yr enw Saesneg Great Orme.[angen ffynhonnell]
Cyfeiriadau