Papur newydd wythonsol, sydd yn bennaf yn yr iaith Saesneg, yw Cambrian News. Fe'i sefydlwyd yn 1860. Caiff ei gylchredeg yn siroedd gogledd a chanolbarth Cymru. Cofnoda newyddion yr ardal yn ogystal â newyddion cenedlaethol a rhyngwladol a hysbysebion. Lleolir y brif swyddfa yn Aberystwyth, yn wreiddiol yn Stryd y Bont, cyn symud i Ffordd y Môr, a Gray Inn Road. Mae bellach yn cael ei gynhyrchu o uned ym Mharc Gwyddoniaeth y dref. Teitlau cysylltiol: Merionethshire Standard a Mid-Wales Herald (1864–1868).
[1]