Dinas Mecsico (Sbaeneg: Ciudad de México; enw gwreiddiol: Tenochtitlan) yw prifddinas a dinas fwyaf Mecsico. Cyfeirir ati yn yr iaith frodorol Nahuatl fel 'Āltepētl Mēxihco' ac yn aml fel 'Mecsico, D.F.' (Distrito Federal) neu'n fyr fel: CDMX. Mae'n un o ddinasoedd mwyaf y byd, gyda phoblogaeth y ddinas ei hun yn 9,209,944 (2020)[1] a phoblogaeth yr ardal fetropolitaidd (a elwir yn "Dinas Mecsico Fwyaf") yn 21,905,000 (2022)[2]. Hi, felly, yw dinas fwyaf poblog Gogledd America.[3][4] Fe'i lleolir yn Nyffryn Mecsico (Valle de México), cwm mawr ar lwyfandir uchel yng nghanol gwlad Mecsico, ar uchder o 2,240 metr (7,350 tr), dros ddwywaith uchder yr Wyddfa. Mae gan y ddinas 16 israniad o'r enw bwrdeistrefi neu demarcaciones territoriales.
Dinas Mecsico yw un o'r canolfannau diwylliannol ac ariannol pwysicaf yn y byd.[5] Cyn i'r Sbaenwyr gyrraedd, yma oedd safle dinas Tenochtitlan. Yn 1519 cyrhaeddodd y Sbaenwyr o dan Hernán Cortés, a chyn hir roeddynt wedi cipio grym yn y ddinas. Wedi i Fexico ennill ei hannibyniaeth oddi wrth Sbaen, daeth Dinas Mecsico yn brifddinas y wlad.
Mae gan Ddinas Mecsico Fwyaf Gynnyrch mewnwladol crynswth (GDP) o $ 411 biliwn yn 2011, sy'n ei gwneud yn un o'r ardaloedd trefol mwyaf cynhyrchiol yn y byd.[6] Roedd y ddinas yn gyfrifol am gynhyrchu 15.8% o Gynnyrch Mewnwladol Crynswth Mecsico gyfan, ac roedd yr ardal fetropolitan yn cyfrif am tua 22% o Gynnyrch Mewnwladol Crynswth y wlad.[7] Pe bai'n wlad annibynnol yn 2013, Dinas Mecsico fyddai'r pumed economi fwyaf yn America Ladin - pum gwaith mor fawr â Costa Rica a thua'r un maint â Periw.[8]
Prifddinas Mecsico yw'r brifddinas hynaf yn America, ac un o ddwy a sefydlwyd gan bobl frodorol, y llall yw Quito, prifddinas Ecwador. Adeiladwyd y ddinas yn wreiddiol ar ynys ar Lyn Texcoco gan yr Asteciaid ym 1325 a'i henw oedd Tenochtitlan, ond fe'i dinistriwyd bron yn llwyr gan y Sbaenwyr yng Ngwarchae Tenochtitlan 1521. Yn 1524, sefydlwyd bwrdeistref Dinas Mecsico, o'r enw México Tenochtitlán, ac ym 1585, fe'i gelwid yn swyddogol fel Ciudad de México (Dinas Mecsico).[9][9] Dinas Mecsico oedd canolfan wleidyddol, weinyddol ac ariannol rhan fawr o ymerodraeth drefedigaethol Sbaen.[10] Ar ôl sicrhau annibyniaeth oddi wrth Sbaen ym 1824, crëwyd hi'n ardal ffederal.
Mae gan y ddinas sawl polisi blaengar, megis erthyliad yn ôl y galw, math cyfyngedig o ewthanasia, ysgariad di-fai, a phriodas o'r un rhyw.
Hanes
Yr arwyddion hynaf o drefedigaethau dynol yn ardal Dinas Mecsico yw esgyrn "y fenyw Peñon" ac eraill a geir yn San Bartolo Atepehuacan (Gustavo A. Madero). Credwyd am hir eu bod yn dod o'r cyfnod Cenolithig isaf (9500-7000 CC). Fodd bynnag, mae astudiaethau diweddar yn gosod oedran y fenyw Peñon yn 12,700 oed,[11] gan ei gwneud yn un o'r olion dynol hynaf a ddarganfuwyd yn yr Americas (neu'r Amerig.[12]
Yr ardal oedd cyrchfan ymfudo’r Teochichimecas yn ystod yr 8g a’r 13g, pobloedd a fyddai’n arwain at ddiwylliannau y Toltec, a'r Mexica (neu'r Asteciaid), a gyrhaeddodd tua'r 14g i ymgartrefu gyntaf ar lannau'r llyn.
Yr Aateciaid
Sefydlwyd dinas Mecsico-Tenochtitlan gan bobl Mexica ym 1325. Adeiladwyd hen ddinas Mexica y cyfeirir ati'n syml fel Tenochtitlan ar ynys yng nghanol llynnoedd mewndirol Dyffryn Mecsico, y rhannodd hi gyda dinas-wladwriaeth lai o'r enw Tlatelolco.[13] Yn ôl y chwedl, nododd prif dduw'r Mecsicaniaid, Huitzilopochtli, y safle lle roeddent i adeiladu eu dinas trwy ddangos iddyn nhw eryr euraid yn gorwedd ar gactws pigog (Opuntia) yn difa neidr Crotalus.[14]
Rhwng 1325 a 1521, tyfodd Tenochtitlan o ran maint a chryfder, gan ddominyddu'r dinas-wladwriaethau eraill o amgylch Llyn Texcoco athrwy Dyffryn Mecsico. Pan gyrhaeddodd y Sbaenwyr, roedd ymerodraeth yr Asteciaid wedi cyrraedd llawer o Mesoamerica: o Gwlff Mecsico i'r Cefnfor Tawel.[14]
Ar ôl glanio yn Veracruz, aeth y fforiwr Sbaenaidd Hernán Cortés ymlaen i Tenochtitlan gan gyrraedd yno ar 8 Tachwedd 1519.[15] Gorymdeithiodd Cortés a'i ddynion ar hyd y sarn a arweiniodd i'r ddinas o Iztapalapa, a chyfarchwyd y Sbaenwyr gan reolwr y ddinas, sef Moctezuma II; cyfnewidiwyd anrhegion, ond ni pharhaodd y cyfeillgarwch yn hir. Carcharodd Cortés y Brenin Moctezuma, gan obeithio llywodraethu trwyddo.[16]
Cynyddodd y tensiynau tan, ar noson 30 Mehefin 1520 a bu brwydr o'r enw "La Noche Triste" - cododd yr Asteciaid yn erbyn y Sbaenwyr estron a llwyddo i ddal neu yrru'r Ewropeaid a'u cynghreiriaid Tlaxcalan oddi yno.[17] Ail-grwpiodd cortés yn Tlaxcala. Credai'r Asteciaid fod y Sbaenwyr wedi mynd yn barhaol, ac etholasant frenin newydd, Cuitláhuac, ond bu farw'n fuan; y brenin nesaf oedd Cuauhtémoc.[18]
Aeth Cortés ati i roi gwarchae ar Tenochtitlan ym Mai 1521. Am dri mis, dioddefodd y ddinas oherwydd diffyg bwyd a dŵr yn ogystal â lledaeniad y frech wen a ddaeth yn sgil y Sbaenwr. Glaniodd Cortés a'i gynghreiriaid eu lluoedd yn ne'r ynys gan ymladd eu ffordd trwy'r ddinas yn araf. Ildiodd Cuauhtémoc yn Awst 1521. Difethodd y Sbaenwyr ardal Tenochtitlan a'r brodorion bron yn llwyr yn ystod gwarchae olaf y goncwest.[15]