Dinas a chymuned (comune) yng nghanolbarth yr Eidal, yw Fflorens (Eidaleg: Firenze), sy'n brifddinas rhanbarthToscana. Saif ar lannau Afon Arno. Hi yw dinas fwyaf Toscana, gyda phoblogaeth o 358,079 (cyfrifiad 2011).[1] Ers canrifoedd mae Fflorens yn enwog fel un o ganolfannau diwylliannol pwysicaf yr Eidal ac Ewrop. Mae ganddi nifer o adeiladau a henebion canoloesol ac o oes y Dadeni ac mae ei hamgueddfeydd yn cynnwys rhai o'r casgliadau celf gorau yn y byd. Ymhlith ei henwogion y mae Dante a Michelangelo.
Hanes
Dechreuodd hanes Fflorens yn 59 CC pan sefydlodd y Rhufeiniaid goloni ar gyfer cyn-filwyr o'r enw Florentia. Roedd Fflorens wedi tyfu'n ganolfan fasnach a diwydiant bwysig erbyn y 12g. Cawsai'r ddinas ei rhwygo'n aml yn yr ymgyrchoedd rhwng pleidiau'r Guelfi a'r Ghibellini yn ystod y ddwy ganrif nesaf, ond serch hynny flodeuodd celf a diwylliant. O'r 15fed i'r 18g bu dan reolaeth teulu'r Medici, a hybai gelf a phensaernïaeth yn y ddinas. O ganlyniad mae nifer yn ystyried mai Fflorens yw man geni y Dadeni Dysg. Yn dilyn cyfnod dan reolaeth Awstria daeth Fflorens yn rhan o deyrnas newydd yr Eidal yn 1861. Am gyfnod byr (rhwng 1865 a 1871) roedd yn brifddinas dros dro teyrnas yr Eidal. Bu i'r ddinas ddioddef cryn dipyn o ddifrod yn yr Ail Ryfel Byd. Erbyn heddiw mae hi'n ganolfan dwristiaeth bwysig ac yn dal i gyfrannu'n sylweddol i fywyd diwylliannol yr Eidal ac Ewrop.
Treftadaeth
Mae tystiolaeth o oes y Dadeni i'w gweld ymhobman yn Fflorens. Er mai Gothig yw arddull y gadeirlan (y Duomo), cynlluniwyd y gromen enfawr gan y pensaer Filippo Brunelleschi, sydd hefyd yn gyfrifol am nifer o adeiladau clasurol y ddinas, gan gynnwys ysbyty Ospedale degli Innocenti, eglwysi San Lorenzo a Santo Spirito a'r Capella Pazzi.
Lleolir y Palazzo Vecchio, plas canoloesol a ddefnyddir fel neuadd y ddinas hyd heddiw, yn y Piazza della Signoria. Dyma yn wreiddiol oedd lleoliad cerflun enwog Michelangelo o Ddafydd. Mae'r cerflun bellach yn oriel yr Accademia ac mae copi wedi cymryd ei le yn y sgwâr. Gerllaw mae'r Uffizi, un o'r orielau celf cyhoeddus cyntaf erioed. Hefyd yn y ddinas mae'r Biblioteca Nazionale, Llyfrgell Genedlaethol yr Eidal a'r brifysgol, a sefydlwyd yn 1321.