Share to: share facebook share twitter share wa share telegram print page

Lefant

Lefant
Mathrhanbarth, ardal ddiwylliannol Edit this on Wikidata
Poblogaeth44,550,926 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynolY Dwyrain Canol Edit this on Wikidata
GerllawMôr y Lefant Edit this on Wikidata
Yn ffinio gydaYr Aifft, Asia Leiaf, Mesopotamia, Arabia Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau34°N 36°E Edit this on Wikidata
Map
Y Lefant tua'r flwyddyn 800 CC

Y Lefant (o'r gair Ffrangeg Levant; "lle gwawria'r haul") yw'r enw traddodiadol ar yr ardal ar arfordir dwyreiniol y Môr Canoldir sy'n cael ei chynnwys heddiw yng ngwladwriaethau Twrci (cornel dde-ddwyreiniol y wlad), Syria (ac eithrio'r rhannau dwyreiniol), Libanus ac Israel. Fe'i gelwir hefyd "y Dwyrain Agos" ac mae'r Sinai a rhannau o Wlad Iorddonen yn cael eu cynnwys yn yr ardal weithiau yn ogystal.

Gelwid Syria a Libanus dan reolaeth mandad Ffrainc "Taleithiau'r Lefant" ac mewn rhai llyfrau cyfyngir y term 'Lefant' i Libanus a gorllewin Syria.

Eginyn erthygl sydd uchod am Asia. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato
Kembali kehalaman sebelumnya