Llyn o tua 40 acer yng Ngheredigion yw Llyn Berwyn. Saif ar yr ucheldir i'r dwyrain o dref Tregaron, ynghanol coedwig Cwm Berwyn.
Ceir pysgota am frithyll yma. Llifa Nant y Llyn allan ohono i ymuno ag Afon Doethïe Fawr.