Siarter cyfreithiol Seisnig a gyhoeddwyd am y tro cyntaf ym 1215 yn Lladin yw'r Magna Carta (Lladin am "Siarter Mawr").
Roedd y Magna Carta yn ymofyn i John, brenin Lloegr ddatgan hawliau penodol (hawliau ei farwniaid yn bennaf), i barchu rhai trefnau cyfreithiol, a derbyn nad oedd ei ewyllys yn gallu cael ei rwymo gan y gyfraith. Roedd yn amddiffyn rhai o hawliau deiliaid y brenin yn benodol, heb ots a oeddent yn rhydd neu'n llyffethair — yn fwyaf nodweddiadol, roedd gwrit y habeas corpus, a oedd yn caniatáu apêl yn erbyn carchariad anghyfreithlon.
Gellir dadalau mai'r Magna Carta oedd y dylanwad cynnar mwyaf nodweddiadol ar hanes y broses helaeth a arweiniodd at reol cyfraith gyfansoddiadol heddiw yn y rhannau hynny o'r byd lle siaredir Saesneg. Fe gafodd y Magna Carta ddylanwad ar ddatblygiad cyfraith gyffredin a nifer o ddogfenni cyfansoddiadol, gan gynnwys Cyfansoddiad yr Unol Daleithiau. Adnewyddwyd nifer o'r cymalau yn yr Oesoedd Canol, a pharhaodd i gael ei adnewyddu hyd yr 18g. Erbyn ail hanner yr 19g, roedd y rhan fwyaf o'r cymalau yn eu ffurf wreiddiol wedi cael eu diddymu o gyfraith Lloegr.
Y Magna Carta oedd y ddogfen gyntaf i gael ei gorfodi ar frenin Seisnig gan ei ddeiliaid (y barwniaid) mewn ymdrech i gyfyngu ei bŵerau mewn cyfraith, ac i amddiffyn eu breintiau. Roedd Siarter Rhyddid 1100 yn rhagflaenydd i'r Magna Carta, ynddi ddatganodd Harri I, brenin Lloegr yn wirfoddol fod ei bŵerau o dan reolaeth y gyfraith.