Yn naturiol mae hyd y cyfnodau hyn yn amrywio cryn dipyn o wlad i wlad. Defnyddir y term i ddisgrifio cyfnodau cyffelyb yn hanes gwledydd eraill hefyd, yn arbennig yn achos gwledydd Gogledd Affrica, y Dwyrain Canol ac Asia.
Ar ôl cwymp Ymerodraeth Rhufain yr oedd hi'n gyfnod ansefydlog iawn yn Ewrop. Roedd pobl o sawl rhan o'r byd yn symud trwy'r cyfandir ac felly roedd y gymdeithas yn newid. Ar wahân i'r anhrefn ar ôl i'r Mongoliaid ddod i Ewrop, roedd y sefyllfa yn gwella ar ôl 1000.
Roedd yr Oesoedd Canol yn gyfnod o afiechydon mawr hefyd, gyda'r Pla Du yn lladd tuag 1/3 o boblogaeth Ewrop yn y 14g.
Anturiaethau milwrol gan Wledydd Cred (gwledydd Cristnogolgorllewin Ewrop) a drefnid yn bennaf er mwyn adfeddiannu lleoedd cysegredig Palesteina oddi ar y Mwslemiaid oedd y Croesgadau, a hynny rhwng 1095 a diwedd y 13g. Cydnabyddir saith croesgad hanesyddol ond mae eu diffinio felly yn tueddu i anwybyddu'r ffaith fod hon yn broses barhaol gyda'r croesgadau "swyddogol" yn cynrychioli penllanw neu drobwynt yn ei hanes. Roedd croesgadu yn digwydd yn nwyrain Ewrop hefyd, yn erbyn "paganiaid" y Baltig.
Ymladdwyd y Croesgadau yn y Lefant yn bennaf, yn enwedig ym Mhalesteina a Syria ond hefyd yn yr Aifft ac Asia Leiaf. Nid y Mwslemiaid yn unig a ddioddefodd. Creuwyd cryn anhrefn yn yr Ymerodraeth Fysantaidd a gyfranodd yn y pen draw at gwymp yr ymerodraeth Gristnogol honno. Pan gyrhaeddwyd Caersalem bu cyflafan erchyll ar Iddewon y ddinas a lladdwyd miloedd o bobl diniwed gan y milwyr buddugoliaethus.
Ar yr ochr bositif, agorodd y Croesgadau ffenestr newydd i'r Gorllewin ar ddysg y Groegiaid. Daeth llawysgrifau o weithiau gan Aristotlys ac eraill i orllewin Ewrop ac roedd hyn yn sail i'r adfywiad dysg a welid yn ystod y Dadeni. Cyfoethogwyd Ewrop gan mathemateg y Mwslemiaid yn ogystal, yn arbennig ym maes algebra (oedd yn ddiarth i Ewropeiaid cyn hynny).