Mae'r erthygl yma'n trafod y dalaith yn yr Unol Daleithiau. Am ystyron eraill, gweler Maine (gwahaniaethu).
Mae Maine yn dalaith yng ngogledd-ddwyrain pellaf yr Unol Daleithiau, sy'n gorwedd ar arfordir Cefnfor Iwerydd. Maine yw'r fwyaf o daleithiau Lloegr Newydd. Mae'n cynnwys ucheldiroedd yn y gogledd-orllewin a'r gorllewin ac iseldiroedd ar hyd yr arfordir a nodweddir gan nifer o faeau. Mae tua 80% o'r dalaith yn goediog ac mae'r boblogaeth yn denau ac eithrio ar yr afordir. Daeth i feddiant Prydain Fawr yn 1763, er bod Ffrainc yn ei hawlio hefyd. Daeth i mewn i'r Undeb fel rhan o Fassachusetss yn 1788 ac yn dalaith ynddi ei hun yn 1820. Augusta yw'r brifddinas.