Cychwynnodd yr ymladd yn sgil goresgyniad Silesia, un o daleithiau'r Hapsbwrgiaid, gan Deyrnas Prwsia ar 16 Rhagfyr 1740. Bu byddin Ffredrig II, brenin Prwsia, yn drech na lluoedd Awstria ym Mrwydr Mollwitz ar 10 Ebrill 1741, ac yn ôl Cytundeb Berlin (Gorffennaf 1742) ildiodd Maria Theresa diroedd Silesia i Brwsia gan ddod â diwedd i Ryfel Cyntaf Silesia. Wedi i'r Prwsiaid heidio dros Silesia, ymochrodd Ffrainc, Etholyddiaeth Bafaria, a Theyrnas Sbaen yn erbyn Awstria, ac yn ddiweddarach ymunodd Prwsia ac Etholyddiaeth Sachsen â'r gynghrair honno. Cipiwyd Prâg gan Charles Albert, gyda chymorth y Ffrancod, yn 1741.
Methodd goresgyniad Awstria a Bohemia gan luoedd Ffrainc a Bafaria, a lansiwyd gwrthgyrch gan Maria Theresa, gyda chymorth Prydain Fawr ac Hwngari, yn 1742 i orchfygu Bafaria. Prif nod y Prydeinwyr wrth ymuno â'r ffrae oedd i atal y Ffrancod rhag ennill tra-arglwyddiaeth dros y cyfandir, a fyddai ar draul diddordebau masnachol a threfedigaethol yr Ymerodraeth Brydeinig. Ymunodd Etholyddiaeth Hannover a'r Hesiaid hefyd ar ochr Awstria, a buont, dan arweiniad Siôr II, brenin Prydain Fawr, yn drech na'r Ffrancod ym Mrwydr Dettingen ar 27 Mehefin 1743. Ymgynghreiriodd Dugiaeth Safwy â'r Awstriaid ym Medi 1743, ac enciliodd lluoedd y Ffrancod yn ôl i ffiniau Teyrnas Ffrainc. Cychwynnodd Ail Ryfel Silesia yn 1744, a methiant fu ymdrechion Awstria i adennill Silesia.
Bu farw Charles Albert yn Ionawr 1745, a gwrthododd ei fab, Maximilian III Joseph, hawlio coron Awstria. Llwyddiant a fu ymgyrch y Ffrancod yn nhiriogaethau Awstriaidd yr Iseldiroedd yn 1745–46. Ymladdwyd rhyfeloedd hefyd rhwng y Ffrancod a'r Prydeinwyr yng Ngogledd America (Rhyfel y Brenin Siôr, 1744–48) a'r India (yr Ail Ryfel Carnatig, 1746–48). Bu hynt y rhyfel yn amhendant nes i'r pwerau wynebu trafferthion ariannol a galw am drafodaethau heddwch. Daeth y gwrthdaro dros olyniaeth y Frenhiniaeth Hapsbwrgaidd i ben yn sgil Cytundeb Aix-la-Chapelle ar 18 Hydref 1748, er i Silesia barhau'n rhan o Brwsia.