Gwladwriaeth Ewropeaidd dan sofraniaeth brenhinllin Awstriaidd Tŷ Hapsbwrg oedd y Frenhiniaeth Hapsbwrgaidd (Almaeneg: Habsburgermonarchie). Lleolwyd ei thiriogaethau yng Nghanolbarth Ewrop yn bennaf, ac yr oedd yn gyfuniad o diroedd etifeddol (Erblande), a fuont ym meddiant Hapsbwrgiaid Awstria ers 1278, a thiroedd annibynnol Breniniaethau Bohemia ac Hwngari, a ymunodd mewn undeb personol anffurfiol â'r Hapsbwrgiaid yn 1526. Endid gwleidyddol unigryw ydoedd, a ffurfiwyd yn raddol drwy briodasau brenhinol ac anghenion rhyngwladol, yn cynnwys hefyd tiriogaethau a goncrwyd ac felly gellir ei ystyried yn ymerodraeth. Nid oedd ganddi gyfansoddiad wleidyddol neu sefydliadau llywodraethol cyfundrefnol ac eithrio'r frenhiniaeth ei hun. Yn y cyfnod 1438–1806, ac eithrio'r ysbaid 1742–45 yn ystod Rhyfel Olyniaeth Awstria, roedd pennaeth Tŷ Hapsbwrg hefyd yn Ymerawdwr Glân Rhufeinig, er na chaiff yr Ymerodraeth Lân Rufeinig ei hun ei hystyried yn rhan o'r Frenhiniaeth Hapsbwrgaidd.
Gellir olrhain y Frenhiniaeth Hapsbwrgaidd yn ôl i ddiwedd y 13g. Etholwyd Rudolf von Habsburg yn Frenin yr Almaen yn 1273, ac yn 1282 ymgorfforodd dugiaethau Awstria a Styria yn eiddo i'w linach. Yn 1482, enillodd yr Ymerawdwr Maximilian I diroedd yn yr Iseldiroedd drwy etifeddiaeth ei wraig. Bu tiriogaeth y Frenhiniaeth Hapsbwrgaidd ar ei hanterth dan reolaeth yr Ymerawdwr Siarl V, a fu hefyd yn Frenin Sbaen a'i threfedigaethau yn y Byd Newydd. Cafodd ei frawd Ferdinand ei ethol yn Frenin Hwngari a Bohemia yn 1526. Yn sgil ymddiorseddiad Siarl V yn 1556, rhennid tiriogaethau'r Hapsbwrgiaid rhwng ei fab Philip II, brenin Sbaen, a Ferdinand a goronwyd yn Ymerawdwr Glân Rhufeinig. O 1564 i 1665 bu sawl cangen wahanol o'r Hapsbwrgiaid Awstriaidd yn teyrnasu dros tiroedd Awstria, Hwngari a Bohemia, yn ogystal â'r Ymerodraeth Lân Rufeinig, nes i undeb personol uno tiriogaethau'r Frenhiniaeth Hapsbwrgaidd. Daeth cyff Sbaenaidd y Hapsbwrgiaid i ben yn sgil marwolaeth Siarl II yn 1700.
Yn 1804, pan oedd Napoleon I, ymerawdwr Ffrainc ar fin diddymu'r Ymerodraeth Lân Rufeinig, unwyd y Frenhiniaeth Hapsbwrgaidd ar ffurf Ymerodraeth Awstria gan Ffransis II, Ymerawdwr Glân Rhufeinig, a ddatganodd ei hun yn Ffransis I, Ymerawdwr Awstria. Yn sgil cyfaddawd 1867 (Almaeneg: Ausgleich, Hwngareg: Kiegyezés) sefydlwyd brenhiniaeth ddeuol Awstria-Hwngari. Daeth y Frenhiniaeth Hapsbwrgaidd i ben yn 1918 yn sgil methiant y Pwerau Canolog yn y Rhyfel Byd Cyntaf.
Er iddi barhau yn un o bwerau mawrion Ewrop am sawl canrif, ni chafodd ymerodraeth Hapsbwrgiaid Awstria ei chydnabod gan enw ffurfiol, cyffredin. Yr enwau cyfoes amlaf arni oedd "tiroedd Tŷ Hapsbwrg" neu "diroedd yr Ymerawdwr [Glân Rhufeinig]" yn y cyfnod pan oedd pennaeth Hapsbwrgiaid Awstria hefyd yn Ymerawdwr Glân Rhufeinig.[2] Oherwydd llinach y teulu brenhinol, a'i lys yn Fienna, cafodd ei galw weithiau gan y trawsenw "Awstria" . Tua 1700, dechreuwyd defnyddio'r term Lladin monarchia austriaca fel enw hwylus.[3] Mae haneswyr modern fel rheol yn cyfeirio ati fel "y Frenhiniaeth Hapsbwrgaidd" neu'r "Ymerodraeth Hapsbwrgaidd".
Cyfeiriadau
Darllen pellach
- R. J. W. Evans, The Making of the Habsburg Monarchy, 1550–1700: An Interpretation (Rhydychen, 1979).
- Charles W. Ingrao, The Habsburg Monarchy, 1618–1815 (Caergrawnt, 1994).
- Robert A. Kann a David V. Zdenek, The Peoples of the Eastern Habsburg Lands, 1526–1918 (Seattle, 1984).
- Robin Okey, The Habsburg Monarchy: From Enlightenment to Eclipse (Efrog Newydd, 2001).