Share to: share facebook share twitter share wa share telegram print page

Seán Mac Diarmada

Seán Mac Diarmada
Ganwyd28 Chwefror 1883 Edit this on Wikidata
Kiltyclogher Edit this on Wikidata
Bu farw12 Mai 1916 Edit this on Wikidata
Carchar Kilmainham Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Gweriniaeth Iwerddon Gwyddel
Galwedigaethchwyldroadwr, gwleidydd Edit this on Wikidata

Ymgyrchydd milwrol Gwyddelig ac un o arweinwyr y Gwrthryfel dros annibyniaeth Iwerddon oedd Seán Mac Diarmada (hefyd: Seán MacDermott; Saesneg: John MacDermott; 27 Ionawr 188312 Mai 1916). Roedd yn un o saith arweinydd Gwrthryfel y Pasg yn 1916 ac yn un a arwyddodd 'Ddatganiad Gweriniaeth Iwerddon', yn ei swydd fel aelod o Uwch-Gyngor Y Frawdoliaeth Wyddelig, Weriniaethol (IRB). Fe'i saethwyd yn farw gan sgwad-saethu yng Ngharchar Kilmainha, Dulyn yn 33 oed.

Magwraeth yn "y pethe"

Y tŷ yn Corranmore lle maged Seán Mac Diarmada.

Ganwyd mewn fferm fechan yn Corranmore, ger Kiltyclogher, Swydd Leitrim a oedd yr adeg honno'n ardal dlawd iawn[1][2] ac fe'i magwyd yn yr ardal wledig honno, lle bu'n frwd iawn yn hyrwyddo'r Wyddeleg a materion cenedlaetholgar-Wyddelig. Bu'n aelod o'r frawdoliaeth Wyddelig Ancient Order of Hibernians, Cynghrair y Wyddeleg a threfnodd nifer o weithgareddau dros Sinn Féin. Ymunodd gyda'r Frawdoliaeth Wyddelig, Weriniaethol (IRB) a daeth yn gyfaill i Tom Clarke.

Yn 1908 symudodd i'r prif ddinas Dulyn a bu'n rheolwr y papur newydd yr Irish Freedom, a sefydlwyd yn 1910 ganddo ef, Denis McCullough a Bulmer Hobson. Yn 1911 fe'i trawyd gan bolio, a phrin y medrodd gerdded wedi hynny; roedd yn gloff ac yn angen ffon i'w gynorthwyo.

Y Rhyfel Byd Cyntaf

Pan gychwynodd y rhyfel, bu Seán Mac Diarmada yn chwyrn ac yn llafar yn erbyn i'r Gwyddelod ymuno gyda Byddin Prydain ac fe'i carcharwyd am hynny dan Ddeddf "Defence of the Realm". Mewn un araith yn 1914 dywedodd, “Oni bai y collir gwaed yn ystod y blynyddoedd nesaf, fe gollir ysbryd gwladgarol y Gwyddel.”

Gwrthryfel y Pasg

Fe'i rhyddhawyd ym Medi 1915 ac ymunodd gyda phrif bwyllgor milwrol yr IRB, a oedd yn gyfrifol am gynllunio Gwrthryfel y Pasg, ac roedd Seán yn un o'r ddau brif gynllunydd y Gwrthryfel, gyda Clarke.[3] Ar y pryd roedd gan yr IRB 1,300 o aelodau.[4]

Am 3.45 y bore ar 12 Mai 1916, fe'i saethwyd gan sgwad-saethu yng Ngharchar Kilmainham, yn 33 oed. Ef a James Connolly oedd yr arweinyddion olaf i gael eu saethu gan fyddin Prydain y Pasg hwnnw. Fe'i claddwyd mewn bedd gyda'r arweinyddion eraill yn hen fuarth carchar Arbour Hill, sydd heddiw wedi'i droi yn gofeb genedlaethol i 'Ferthyron Gwrthryfel y Pasg'.

Cyfeiriadau

  1. historyireland.com; historyireland.com; adalwyd Mawrth 2016
  2. "Seán MacDiarmada" (PDF). The 1916 Rising: Personalities and Perspectives. National Library of Ireland. 2006. Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 2012-03-07. Cyrchwyd 18 Tachwedd 2010.
  3. S McCoole, "No Ordinary Women", tud.35.
  4. theirishstory.com; adalwyd Mawrth 2016

Dolennau allanol

Kembali kehalaman sebelumnya