Tîm beicio proffesiynol Prydeinig yw Team Sky (Côd UCI:SKY) sy'n cystadlu ar Gylchdaith Proffesiynol yr UCI. Lleolir y tîm yng Nghanolfan Seiclo Cenedlaethol Prydain yn y Felodrom ym Manceinion, Lloegr, gyda chanolfan cynorthwyol yng Ngwlad Belg a chanolfan reoli yn Quarrata, Yr Eidal[1]. Rheolir y tîm gan gyn-gyfarwyddwr perfformiad British Cycling, Dave Brailsford.
Nawdd
Cyfranodd BSkyB £30 miliwn o nawdd i'r tîm i fod yn noddwyr enw'r tîm hyd diwedd 2013.[1] Mae'r tîm hefyd yn derbyn nawdd pellach gan News Corporation a Sky Italia. Pinarello sy'n cyflenwi fframiau a ffyrc y beiciau, y ffram Dogma 60.1. a ddefnyddwyd yn 2010.[2][3][4] Ar 5 Ionawr2010, datganwyd mai Adidas oedd partner swyddogol dillad ac ategolion y tîm.[5] Mae Gatorade, M&S, Oakley, IG Markets a Jaguar hefyd yn noddwyr.
Yn ystod Tour de France 2011 newidiodd y tîm eu crysau o ddu i wyrdd er mwyn codi ymwybyddiaeth a chefnogi Sky Rainforest Rescue, partneriaeth tair blynedd rhwng Sky a'r World Wide Fund for Nature i geisio achub biliwn o goed yn nhalaith Acre ym Mrasil[6].
Ers 2013, mae'r cwmni dillad, Rapha, wedi bod yn gyfrifol am holl ddillad y tîm[7] ac ar 27 Awst2013 cyhoeddwyd fod cwmni Pinarello wedi arwyddo cytundeb newydd i baratoi beiciau'r tîm hyd at ddiwedd tymor 2016[8]