Yn ogystal â Phencampwriaeth y Byd a 30 cymal yn y Tour de France mae Cavendish wedi ennill ras glasur y Milan–San Remo yn 2009[6] a hefyd cystadleuaeth y pwyntiau ym mhob un o'r Grand Tours: y Vuelta a España yn 2010[7], y Tour de France yn 2011[8] a'r Giro d'Italia yn 2013[9]
Bywyd cynnar a gyrfa amatur
Ganwyd Cavendish yn Douglas, Ynys Manaw, yn fab i David sy'n frodor o'r ynys, ac Adele o Sir Efrog, Lloegr[10] a dechreuodd rasio BMX yng Nghanolfan Chwaraeon Cenedlaethol Ynys Manaw yn Douglas. Llwyddodd i ennill dwy fedal aur yng Ngemau'r Ynysoedd yn Guernsey yn 2003[11][12] cyn cael ei le ar raglen Academi British Cycling.
Cafodd Cavendish ei le ar dîm Sparkasse o'r Almaen yn 2006[13] gan gystadlu yn y Tour of Britain lle llwyddodd i ennill cystadleuaeth y pwyntiau[14]. Roedd Sparkasse yn dîm datblygu i dîm T-Mobile ac yn 2007 cafodd gytundeb gyda T-Mobile. Cafodd ei ddewis i rasio yn y Tour de France am y tro cyntaf ond rhoddodd gorau i'r ras yn ystod yr wythfed cymal[15].
2008
Dychwelodd i'r trac yn 2008 gan ennill y madison ym Mhencampwriaethau Trac y Byd gyda Bradley Wiggins[5]. Ar y lôn, llwyddodd Cavendish i ennill cymal mewn Grand Tour am y tro cyntaf gyda buddugoliaethau yn y Giro d'Italia a'r Tour de France[14]. Gadawodd y Tour de France yn gynnar er mwyn canolbwyntio ar y madison yng Ngemau Olympaidd 2008 yn Beijing, Tsieina, lle roedd disgwyl iddo ef a Wiggins ailgreu eu perfformiad ym Mhencampwriaeth y Byd a chipio'r fedal aur, ond roedd siom wrth i'r pâr orffen yn nawfed[16]. Roedd Cavendish yn credu nad oedd Wiggins wedi perfformio i'r gorau o'i allu[17].
2009
Yn 2009 cafodd ei ddewis i rasio yn y Milan–San Remo, un o bum prif glasur y calendr beicio. Llwyddodd Cavendish i gwrsio'r gŵr o Awstralia, Heinrich Haussler, a'i guro dros y 200m olaf er mwyn cipio buddugoliaeth fwyaf ei yrfa hyd yma[6]. Ar ddiwrnod cyntaf y Giro d'Italia llwyddodd Team Colombia-High Road i ennill y cymal cyntaf yn erbyn y cloc a cafodd Cavendish wisgo crys y Maglia Rosa fel arweinydd y ras; y gŵr cyntaf o Ynys Manaw i gael yr anrhydedd[18].
Parhaodd ei lwyddiant yn y Grand Tours wrth iddo ennill cymalau 2, 3, 10, 11, 19 a 21 o'r Tour de France[19]. Wrth ennill y trydedd cymal daeth Cavendish y Prydeiniwr cyntaf i wisgo'r Maillot Vert am ddau ddiwrnod yn olynol[20] ac wrth ennill y 19eg cymal llwyddodd Cavendish i ddod y Prydeiniwr gyda'r nifer fwyaf o fuddugoliaethau mewn cymalau o'r Tour de France[21].
2010
Dechreuodd Cavendish dymor 2010 yn hwyr oherwydd problemau gyda'i ddanedd[22] ond llwyddodd i wneud ei farc unwaith eto yn y Tour de France. Er cael damwain yng nghyfnod olaf y cymal agoriado[23] llwyddodd Cavendish i ennill cymalau 5, 6, 11, 18 ac 20 er mwyn dod â'i gyfanswm o fuddugoliaethau i bymtheg cymal[24].
Llwyddodd Cavendish i ychwanegu crys arweinydd y Vuelta a España i'w gasgliad wedi i'w dîm ennill y ras yn erbyn y cloc ar ddiwrnod agoriadol y ras[25] a llwyddodd i ennill cymalau 12, 13 ac 18 a chipio'r gystadleuaeth pwyntiau er mwyn gorffen y tymor ar dân[26].
2011
Cipiodd Cavendish ddwy gymal o'r Giro d'Italia[27] cyn ychwanegu pum cymal o'r Tour de France i'w gyfanswm o fuddugoliaethau mewn Grand Tour a dod y person cyntaf erioed i ennill y cymal olaf o'r Tour am dair blynedd yn olynol. Llwyddodd hefyd i ennill cystadleuaeth y pwyntiau a dod y Prydeiniwr cyntaf erioed i ennill y maillot vert[28].
Dechreuodd Cavendish y tymor gyda Team Sky[29] a llwyddodd i gipio tair cymal o'r Giro d'Italia[30] ond methodd ag ennill y gystadleuaeth pwyntiau gan orffen yn yr ail safle, un pwynt tu ôl i Joaquim Rodríguez. Llwyddodd i greu hanes yn y Tour de France wrth ennill pedair cymal arall gan gynnwys y cymal olaf ar y Champs-Elysée am y pedwaredd blwyddyn yn olynol a dod y beiciwr cyntaf i ennill ar y Champs-Elysée tra'n gwisgo'r crys enfys[31]. Yn ystod y Tour, cyhoeddodd y papur newydd Ffrengig, L'Equipe mai Cavendish oedd y gwibiwr gorau yn hanes y Tour de France[32][33].
Llwyddodd Cavendish i ennill pum cymal o'r Giro d'Italia - buddugoliaethau oedd yn cynnwys y 100fed buddugoliaeth o'i yrfa broffesiynol[36] a llwyddodd i ennill y gystadleuaeth bwyntiau gan ddod y pumed person erioed i ennill y gystadleuaeth bwyntiau ym mhob un o'r Grand Tours[37].
Ym mis Medi, llwyddodd Cavendish i ennill dwy gymal o'r Tour of Britain gan gynnwys y bedwaredd cymal oedd yn gorffen yn Llanberis[40].
2014
Cafodd Cavendish flwyddyn ddistaw gan iddo beidio a chystadlu yn y Giro d'Italia. Yn ystod cymal cyntaf y Tour de France rhwng Leeds a Harrogate yn Sir Efrog, Lloegr cafodd ddamwain welodd o'n ddatgymalu ei ysgwydd a'i orfodi allan o'r ras[41].