Papur newydd Saesneg, wythnosol yn bennaf oedd The Cardiff Times, a sefydlwyd yn 1857 ac a oedd iddo ogwydd Ryddfrydol. Cafodd ei gylchredeg yn siroedd Gogledd Cymru a De Cymru, a'r gororau. Cyhoeddwyd y papur rhwng 1857-1928 ac yna rhwng 1930-1955. Teitlau cysylltiol: South Wales Weekly News and Cardiff Times (1928-1930).
[1]
Yn 1886 cafodd ei ail-fodeli i gynnwys amrywiaeth o nodweddion eraill, megis cyfraniadau gan lenorion a phrif feirdd Cymru, storïau cyfresol a disgrifiadau o fywyd cymdeithasol y Cymry. Ymhlith ei gyfrannwyr oedd William Abraham (Mabon, 1842-1922). O 1857 hyd 1928 'roedd y papur yn eiddo i D. Duncan & Sons, ac o 1930 ymlaen fe'i berchnogwyd gan y Western Mail. Cyhoeddwyd y papur rhwng 1857-1928 a 1930-1955. Teitlau cysylltiol: South Wales Weekly News and Cardiff Times (1928-1930).[2]