Pentref bychan ym Mhen Llŷn, Gwynedd, yw Bryncroes ( ynganiad ). Cyfeirnod OS: SH 22698 31465. Fe'i lleolir tua 5 milltir i'r gogledd-ddwyrain o Aberdaron.
I'r de cyfyd Mynydd Rhiw (305m). Y pentrefi agosaf yw Sarn Mellteyrn, filltir i'r gogledd, a Botwnnog, 2 filltir a hanner i'r dwyrain.
Ceir ffynnon sanctaidd hynafol o'r enw Ffynnon Fair ger yr eglwys. Ceir llecyn o'r enw Mynachdy gerllaw, sy'n awgrymu ei fod yn perthyn i'r clas enwog ar Ynys Enlli ar un adeg.[1] Ar lethrau Mynydd Rhiw ceir caer gynhanesyddol Castell Caeron.
Bu gan y pentref ysgol ond fe'i caewyd er gwaethaf protestiadau yn erbyn y penderfyniad ac mae'r adeilad yn cael ei ddefnyddio fel canolfan gymuned y pentref erbyn hyn.
Enwogion
Cyfeiriadau
- ↑ J. Daniel, Archaeologia Lleynensis: Hynafiaethau Lleyn (Bangor, 1892).