Pentref yng nghymuned Llandderfel, Gwynedd, Cymru, ydy Llanfor[1][2] ( ynganiad ). Saif llai na milltir o'r Bala i gyfeiriad Corwen. Yn hanesyddol bu'n ran o Sir Feirionnydd. Llanfawr oedd enw'r pentref yn wreiddiol, sy'n awgrymu fod y safle'n un pwysig o ran gweithgaredd eglwysig. Cyfeirir at yr eglwys leol fel "Llanfor", a gysegrwyd i Sant Mor ap Ceuneu, ac yna'n ddiweddar Sant Deiniol.[3] Roedd hefyd Frongoch Whiskey Distillery gerllaw ym mhentref Frongoch.
Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Mabon ap Gwynfor (Plaid Cymru)[4] ac yn Senedd y DU gan Liz Saville Roberts (Plaid Cymru).[5]
Hanes
Mae hen gaer a gwersyll Rhufeinig wedi ei leoli gerllaw.[6] Yn ôl traddodiad, roedd cylch meini cynhanesyddol a elwid yn "Babell Llywarch Hen" yn sefyll ger yr eglwys.
Ceir yma hefyd Castell mwnt a beili (Cyfeirnod OS: SH 938368) sy'n dyddio yn ôl i'r 11g, mae'n debyg.
Capeli
Mae'r capel wedi ei chysegru i Sant Deiniol. Mae hefyd dwy gapel arall, Sant Marc yn Fron Goch a 'Trinity' yn yr ardal. Gynt roedd hefyd 'Capel Llwyneinion' yn y pentref, sef capel y Methodistiaid Calfinaidd a'i adeiladwyd cyn 1800 a caewyd hi tua 1967.[3]
Eglwys Sant Mor a Sant Deiniol
Ar fapiau'r OS rhwng 1889 a 1901 cofnodir enw'r egwlys fel Sant Mor ond ei henw heddiw yw Sant Deiniol. Caewyd yr eglwys ac yn 2017 gwerthwyd hi i ddatblygwr preifat.[7] Adeiladwyd yr eglwys bresennol yn 1874 yn lle'r eglwys Canoloesol a ddisgrifiwyd yn 1874 fel 'eglwys hynafol iawn ond mewn cyflwr gwael.'
Mae gan yr eglwys garreg yn ei thŵr gydag ysgrif o'r 6g:
- 'Yma y gorwedd Cavo, mab seiargios'.
Mae safle'r eglwys yn agos at olion Rhufeinig (NPRN 95489).
Enwogion
Cyfeiriadau