Pentref a chymuned yng nghanolbarth Ceredigion yw Henfynyw ( ynganiad ). Saif y pentref ger y briffordd A487 ychydig i'r de o dref Aberaeron.
Heblaw pentref Henfynyw ei hun, mae Cymuned Henfynyw yn cynnwys pentrefi Ffos-y-ffin, Llwyncelyn a Derwen-gam. Roedd poblogaeth y gymuned yn 1,067 yn 2001.
Ceir cysylltiad cryf rhwng yr ardal yma a Dewi Sant. Dywedir iddo gael ei addysgu yn Henfynyw, ac yn ôl un traddodiad, yma y cafodd ei eni. Cysegrir yr eglwys leol iddo. Nid yw'r adeilad presennol yn hen ond ceir Ffynnon Ddewi gerllaw a gysylltir â hanes y sant.
Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Elin Jones (Plaid Cymru)[1] ac yn Senedd y DU gan Ben Lake (Plaid Cymru).[2]
Cyfrifiad 2011
Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[3][4][5][6]
Cyfrifiad 2011 |
|
|
|
Poblogaeth cymuned Henfynyw (pob oed) (1,045) |
|
100% |
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Henfynyw) (557) |
|
54.3% |
:Y ganran drwy Gymru |
|
19% |
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Henfynyw) (620) |
|
59.3% |
:Y ganran drwy Gymru |
|
73% |
Y nifer rhwng 16 – 64 oed sydd mewn gwaith (Henfynyw) (161) |
|
35.3% |
:Y ganran drwy Gymru |
|
67.1% |
Cyfeiriadau