Pentref yng Ngheredigion yw Ponterwyd,[1] a leolir tua 12 milltir i'r dwyrain o Aberystwyth ar lôn yr A44 rhwng y dref honno a Llangurig. I'r de mae pentref hanesyddol Ysbyty Cynfyn. I'r gogledd ceir moelydd llwm Pumlumon. Rhed Afon Rheidol i'r de o'r pentref.
Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Elin Jones (Plaid Cymru)[2] ac yn Senedd y DU gan Ben Lake (Plaid Cymru).[3]
Hanes
Mae gan Bonterwyd nifer o adeiladau Sioraidd, gan gynnwys 'Yr Hen Bont' ar afon Rheidol, sy'n dyddio o'r 18g, a'r capel gerllaw.
Bu cloddio am fwynau yn y bryniau o gwmpas. Mae hen fwynglawdd arian Llywernog ger y pentref yn amgueddfa erbyn heddiw.
Enwogion
Ganed yr ysgolhaig Celtaidd Syr John Rhŷs ger Ponterwyd yn 1840.
Cyfeiriadau