Pentref a chymuned ym Mhowys, Cymru, yw Llan-gors.[1] Saif i'r dwyrain o Aberhonddu.[2] Mae'r eglwys wedi ei chysegru i Sant Peulin.
Gerllaw'r pentref mae Llyn Syfaddan, y llyn naturiol mwyaf yn ne Cymru a lleoliad Crannog Llyn Syfaddan, un o ddwy grannog y gwyddir amdani yng Nghymru, a oedd o bosib, a chysylltiad gyda theulu brenhinol Brycheiniog, sy'n brawf o gyslltiad Cymru gydag Iwerddon (lle ceir miloedd o granogau). Ceir cofnod gan Gerallt Gymro o draddodiad lleol mai dim ond o flaen tywysog cyfreithlon Cymru y canai adar y llyn.
Heblaw pentref Llangors, mae'r gymuned yn cynnwys pentrefi Llangasty Tal-y-llyn, Llanfihangel Tal-y-llyn, Llan-y-wern a Cathedin. Roedd y boblogaeth yn 2001 yn 1,045.
Cyfrifiad 2011
Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[3][4][5]
Cyfrifiad 2011 |
|
|
|
Poblogaeth cymuned Llan-gors (pob oed) (1,080) |
|
100% |
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Llan-gors) (129) |
|
12.2% |
:Y ganran drwy Gymru |
|
19% |
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Llan-gors) (632) |
|
58.5% |
:Y ganran drwy Gymru |
|
73% |
Y nifer dros 16 sydd mewn gwaith (Llan-gors) (112) |
|
25.5% |
:Y ganran drwy Gymru |
|
67.1% |
Cyfeiriadau