Pentref yng nghymuned Llywel , Powys , Cymru , yw Trecastell (Saesneg: Trecastle ). Saif yn ne-orllewin y sir ar bwys Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog .
Gorwedd Trecastell ar y draffordd A40 rhwng Aberhonddu a Llanymddyfri , tua 3 milltir i'r gorllewin o Bontsenni . I'r gogledd ceir Mynydd Epynt ac i'r de ceir y Mynydd Du a'r Fforest Fawr .
Ger y pentref ceir safle caer Rufeinig dros nos Y Pigwn a cheir cwrs ffordd Rufeinig gerllaw. O gyfnod cynharach eto mae cylchoedd cerrig Mynydd Bach Trecastell , tua 2 filltir o'r pentref.
Enwir y pentref ar ôl y castell mwnt a beili a godwyd yno yn y 12g gan yr arglwydd Normanaidd lleol Bernard de Neufmarche i amddiffyn Aberhonddu rhag ymosodiadau o gyfeiriad Deheubarth i'r gorllewin. Treuliodd Edward I o Loegr dri diwrnod yn Nhrecastell yn 1295 yn ystod gwrthryfel Cymreig yn ymladd ag arglwyddi Cymreig yr ardal. Erys olion y castell ar y safle heddiw.
Yn y cyfnod modern, daeth Trecastell yn arosfa ar lwybr y goets fawr rhwng Caerloyw a Llanymddyfri. Roedd ar lwybr pwysig i'r porthmyn hefyd.
Erbyn y 19g bu gan y pentref wyth ffair flynyddol, gwaith nwy, dwy ysgol, melin grawnfwyd, dau gofail, 16 siop a sawl tafarn. Roedd yno felin wlân hefyd, un o'r fwyaf yn yr ardal.
Trecastell.
Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan James Evans (Ceidwadwyr )[ 1] ac yn Senedd y DU gan David Chadwick (Democratiaid Rhyddfrydol ).[ 2]
Cyfeiriadau
Dolen allanol