Pentref a chymuned ym Mhowys, Cymru, yw Llywel.[1][2] Saif ger priffordd yr A40 i'r gorllewin o Bontsenni. Heblaw pentref Llywel, mae'r gymuned yn cynnwys pentref Trecastell. Roedd y boblogaeth yn 2001 yn 524.
Yn Eglwys Dewi Sant, sy'n enghraifft o bensaernïaeth Berpendicwlar Gothig, ceir carreg ag arysgrifen Ogam arni. Mae Carreg Llywel, sydd hefyd yn dwyn arysgrifen Ogam, yn awr yn yr Amgueddfa Brydeinig. Yn y fynwent, mae David Owen (Brutus) wedi ei gladdu.
Ardal fynyddig yw'r gymuned, yn cynnwys Fan Brycheiniog, copa uchaf y Mynydd Du, a Llyn y Fan Fawr.
Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan James Evans (Ceidwadwyr)[3] ac yn Senedd y DU gan David Chadwick (Democratiaid Rhyddfrydol).[4]
Cyfrifiad 2011
Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[5][6][7]
Cyfrifiad 2011 |
|
|
|
Poblogaeth cymuned Llywel (pob oed) (497) |
|
100% |
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Llywel) (125) |
|
25.8% |
:Y ganran drwy Gymru |
|
19% |
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Llywel) (342) |
|
68.8% |
:Y ganran drwy Gymru |
|
73% |
Y nifer dros 16 sydd mewn gwaith (Llywel) (56) |
|
26.7% |
:Y ganran drwy Gymru |
|
67.1% |
Cyfeiriadau