Pentref a chymuned yn Sir Fynwy, Cymru, yw Llanarfan[1] (Saesneg: St Arvans).[2] Efallai fod ffurf Gymraeg, "Llanarfan", ar enw y lle ar un adeg, ond yn sicr "St Arwyn" oedd yr hyn a ysgrifenid yn 1307 a "Santo Arwino" yn 1193. Saif y pentref tua dwy filltir i'r gogledd o dref Cas-gwent, heb fod ymhell o Gae Rasio Ceffylau Cas-gwent. Roedd poblogaeth yn gymuned yn 2001 yn 710.
Cysegrir yr eglwys i Sant Arfan. Yn ôl traddodiad, roedd yn feudwy o'r 9g, a foddodd tra'r pysgota yn Afon Gwy yn ei gwrwgl. Mae'r fynwent gron yn awgrymu fod y fan yn sefydliad Celtaidd cynnar, ond mae'r eglwys bresennol yn dyddio o'r cyfnod Normanaidd.
Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Peter Fox (Ceidwadwyr)[3] ac yn Senedd y DU gan Catherine Fookes (Llafur).[4]
Cyfrifiad 2011
Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[5][6][7][8]
Cyfrifiad 2011 |
|
|
|
Poblogaeth cymuned St. Arvans (pob oed) (765) |
|
100% |
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (St. Arvans) (61) |
|
8.2% |
:Y ganran drwy Gymru |
|
19% |
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (St. Arvans) (331) |
|
43.3% |
:Y ganran drwy Gymru |
|
73% |
Y nifer mewn gwaith rhwng 16 a 74 oed(St. Arvans) (112) |
|
35.7% |
:Y ganran drwy Gymru |
|
67.1% |
Cyfeiriadau