Share to: share facebook share twitter share wa share telegram print page

Ynysgynwraidd

Ynysgynwraidd
Mathpentrefan, cymuned Edit this on Wikidata
Poblogaeth678 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirSir Fynwy Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau51.877°N 2.788°W Edit this on Wikidata
Cod SYGW04001081 Edit this on Wikidata
Cod OSSO457201 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AS/au CymruPeter Fox (Ceidwadwyr)
AS/au y DUCatherine Fookes (Llafur)
Map
Statws treftadaethHenebion Cenedlaethol Cymru Edit this on Wikidata
Manylion

Pentref yng nghymuned Llangatwg Feibion Afel, Sir Fynwy, Cymru, yw Ynysgynwraidd[1] (Saesneg: Skenfrith).[2] Saif rhwng y Fenni a'r Rhosan ar Wy, bron yn union ar y ffin â Loegr. Saif ar lan orllewinol Afon Mynwy, 5 milltir i'r gogledd o Drefynwy. Mae castell yno, sy'n ddi-dâl i ymwelwyr, ac mae hen eglwys a thafarn hefyd.

Eglwys Ynysgynwraidd
Gwerin gwyddbwyll (ar y chwith) a ddarganfuwyd yng Nghastell Ynysgynwraidd, yn dyddio o'r 12ed ganrif. Mae'r darn a welir ar y dde yn dod o Gaerllion

Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Peter Fox (Ceidwadwyr)[3] ac yn Senedd y DU gan Catherine Fookes (Llafur).[4]

Castell

Castell Ynysgynwraidd

Yng nghanol y pentref ac ar lan Afon Mynwy, saif castell, a godwyd ychydig wedi 1066. Mae'n edrych yn debyg i Gastell Dolbadarn: un tŵr crwn, soled o garreg. Cofrestrwyd y castell fel Gradd II* yn Nhachwedd 1953. Mae'n un grŵp o dri chastell yn yr ardal, sydd hefyd yn cynnwys Castell y Grysmwnt a'r Castell Gwyn.

Cyfeiriadau

Gweler hefyd

Dolen allanol

Eginyn erthygl sydd uchod am Sir Fynwy. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato
Kembali kehalaman sebelumnya