Share to: share facebook share twitter share wa share telegram print page

Y Fenni

Y Fenni
Mathtref farchnad, cymuned Edit this on Wikidata
Poblogaeth10,078, 10,766 Edit this on Wikidata
Gefeilldref/iÖstringen, Sarno, Canton Beaupréau Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirSir Fynwy Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Arwynebedd1,032.5 ha Edit this on Wikidata
GerllawAfon Wysg Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau51.8331°N 3.0172°W Edit this on Wikidata
Cod SYGW04000775 Edit this on Wikidata
Cod OSSO295145 Edit this on Wikidata
Cod postNP7 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AS/au CymruPeter Fox (Ceidwadwyr)
AS/au y DUCatherine Fookes (Llafur)
Map

Tref farchnad a chymuned yn Sir Fynwy, Cymru, yw'r Fenni[1][2] (Saesneg: Abergavenny). Saif tua 15 milltir (24 km) i'r gorllewin o Drefynwy ar ffyrdd yr A40 a'r A465 (Ffordd Blaenau'r Cymoedd), a thua 6 milltir (10 km) i'r de orllewin o'r ffin â Swydd Henffordd, a Lloegr. O'i wreiddiau yn gaer Rhufeinig, deuai'n dref gaerog ganol-oesol o fewn Y Mers. Mae gan y dref adfeilion castell carreg a adeiladwyd yn sgil dyfodiad y Normaniaid.

Hysbysebir y dref fel "Porth i Gymru" (Gateway to Wales). Fel yr awgrymir gan yr enw Saesneg, lleolir y Fenni ar aber afon Gafenni ar afon Wysg. Amgylchynir y dref gan ddau fynydd, sef Blorens (559m) a Phen-y-fâl (596m), a phum bryn: Ysgyryd Fawr (486m), Ysgyryd Fach (271m), Deri Allt (376m), Rholben (338m) a Mynydd Llanwenarth (395m).

Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Peter Fox (Ceidwadwyr)[3] ac yn Senedd y DU gan Catherine Fookes (Llafur).[4]

Hanes

Gwreiddiau'r dref a'i henw

Roedd Gobannium yn gaer Rufeinig a oedd yn amddiffyn y ffordd ar hyd dyffryn Wysg a oedd yn cysylltu Burrium (Brynbuga) ac Isca Augusta (Caerllion) yn y de â Cicucium (Y Gaer) a'r canolbarth. Adeiladwyd hefyd er mwyn trechu'r Silwriaid brodorol. Cafwyd hyd i adfeilion y gaer hon yn y 1960au pan adeiladwyd y swyddfa bost newydd.

Daw'r enw "Y Fenni" o'r hen enw "Abergafenni". Enwyd afon Gafenni ar ôl y gaer Rufeinig "Gobannium", a enwyd ar ôl yr hen dduw Celtaidd "Gobannos". Mae hwnnw'n gyfarwydd i ni heddiw fel Gofannon fab Dôn yn Culhwch ac Olwen. Mae ei enw'n gytras â'r gair 'gof', yn awgrymu cysylltiadau hynafol rhwng gofaint ag ardal y Fenni.

Cyfnod y Normaniaid

Tyfai'r Fenni'n dref o dan reolaeth Arglwyddi'r Fenni. Hamelin de Balun, o Ballon, Maine-Anjou, ger Le Mans, Ffrainc, oedd y barwn cyntaf. Sefydlodd abaty Benedictaidd yn y 11g, lle saif Eglwys y Santes Fair erbyn hyn. Derbyniai'r eglwys honno degwm gan y castell a chan y dref. Ceir cerfluniau diddorol yno.

Oherwydd ei lleoliad ar y ffin gwelai'r dref sawl rhyfel yn ystod y 12fed a'r 13g. Ym 1175, lladdwyd holl benaethiaid Cymreig yr ardal gan Wilym Brewys, tad y Gwilym Brewyd a geid yn hanes Siwan gan Saunders Lewis. Gwahoddodd Gwilym y penaethiaid lleol i'w gastell am wledd ddydd Nadolig. Rhoes y Cymry ei arfau iddo er mwyn dod i mewn i'r castell, ond yn lle datrys y problemau a oedd ganddynt, fe'u bradychwyd gan Wilym a'u lladd. Mae Gerallt Gymro yn adrodd i'r Cymry gipio'r castell o Frewys ym 1182.

1300 i 1900

Ymosododd Owain Glyndŵr â'r dref ym 1404. Yn ôl yr hanes, daeth gwŷr Glyn Dŵr i mewn i'r dref â chymorth Cymraes leol a adawodd iddynt ddod i mewn drwy borth ar Stryd y Farchnad liw nos. Agorodd y drws a daeth y fyddin i mewn yn llosgi'r dref, ond yn gadael y castell i fod. Gelwir Stryd y Farchnad "Traitors' Lane" hyd heddiw.

Sefydlwyd Ysgol y Brenin Harri VIII ym 1542.

Yn ystod Rhyfel Cartref Lloegr daeth y Brenin Siarl I i'r Fenni er mwyn cymryd rhan yn achos llys Syr Trefor Williams, a seneddwyr eraill.

Sefydlwyd Cymdeithas Cymreigyddion Y Fenni ar 2 Tachwedd 1833, yn y Sun Inn yn Y Fenni, ac yn y dref cynaliwyd Eisteddfodau'r Fenni o 1834 i 1854.

Hanes diweddarach

Carcharwyd Rudolph Hess yng Nghwrt Maindiff yn ystod yr ail Ryfel Byd, ar ôl iddo hedfan i'r Alban.

Marchnadoedd

Neuadd y Farchnad

Ceir amryw farchnadoedd yn Neuadd y Farchnad yng nghanol y dref.

Marchnad Wartheg

Rhwng 1825 a 1863 cynhelid marchnad ddefaid ar Stryd y Castell, er mwyn atal y preswylwyr rhag gwerthu eu defaid ar hyd strydoedd y dref. Yn 1863 agorwyd marchnad wartheg newydd i'r de o Barc Bailey. Yn ei dyddiau diweddar, cynhelid marchnad yno ar ddydd Mawrth ar gyfer arwerthiant defaid, ac ar rai dydd Gwener ar gyfer gwartheg. Hefyd, ar ôl i farchnad wartheg Casnewydd gau yn 2009, cynhelid arwerthiannau Casnewydd yn y Fenni bob dydd Mercher.

Yn Ionawr 2012 diddymodd Llywodraeth Cymru[5] ddwy Ddeddf Seneddol o 1854 a 1871[6] a oedd wedi gorfodi'r dref i gynnal marchnad da byw, a daeth y farchnad wartheg i ben yn 2013. Yn Rhagfyr 2013 cafodd marchnad wartheg newydd ei hagor yn Bryngwyn, tua 10 milltir (16 km) i'r dwyrain o’r Fenni. Adeiladwyd archfarchnad (Morrisons) ar safle'r hen farchnad, ac fe'i hagorwyd yn Mawrth 2018.[7]

Diwylliant

  • Cynhaliwyd Eisteddfod Genedlaethol yn y Fenni ym 1838, 1913 ac yn 2016.
  • Ym 1968 cyhoeddwyd y gân "Abergavenny" gan Marty Wilde.
  • Mae gan y Fenni tair gefeilldref, sef Ostringen, Beaupreau a Sarno.
  • Ceir cyfeiriadau at y Fenni yn llyfrau Sherlock Holmes a Harry Potter.
  • Ymhlith aelodau cymdeithas Cymreigyddion y Fenni oedd yr hanesydd Carnhuanawc.
  • Ceir croes eglwysig o bwys gerllaw, sef Croes Eglwys St Issau.

Adeiladau a chofadeiladau

Ceir yma nifer o eglwysi: Eglwys y Santes Fair yw prif eglwys y dref, ac mae'n un o'r eglwysi mwyaf yng Nghymru. Ceir dwy eglwys a gysegrwyd i Sant Teilo gerllaw: y cyntaf yn Llandeilo Bertholau a'r ail yn Llandeilo Gresynni. Mae tŵr cam eglwys Cwm-iou yn nodedig, ychydig filltiroedd o Aberhonddu; gerllaw, saif Priordy Llanddewi Nant Hodni, priordy Awstinaidd ger pentref Llanddewi Nant Hodni yng nghymuned Crucornau.

Enwogion

Cyfrifiad 2011

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[9][10][11][12]

Cyfrifiad 2011
Poblogaeth cymuned Y Fenni (pob oed) (10,078)
  
100%
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Y Fenni) (948)
  
9.7%
:Y ganran drwy Gymru
  
19%
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Y Fenni) (6946)
  
68.9%
:Y ganran drwy Gymru
  
73%
Y nifer mewn gwaith rhwng 16 a 74 oed(Y Fenni) (1,997)
  
43.1%
:Y ganran drwy Gymru
  
67.1%

Gefeilldrefi

Cyfeiriadau

  1. "Rhestr o Enwau Lleoedd Safonol Cymru". Llywodraeth Cymru. 13 Hydref 2021.
  2. British Place Names; adalwyd 21 Rhagfyr 2021
  3. "Gwefan Senedd Cymru". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2021-11-10. Cyrchwyd 2021-12-21.
  4. Gwefan Senedd y DU
  5. Gorchymyn Deddf Gwella'r Fenni 1854 (Diddymu) 2012, dedfwriaeth.gov.uk; adalwyd 20 Tachwedd 2024
  6. "Abergavenny Improvement Act 1854"" a "Abergavenny Improvement Act 1871"", dedfwriaeth.gov.uk; adalwyd 20 Tachwedd 2024
  7. "Morrisons store opens in Abergavenny", Abergavenny Chronicle, 14 Mawrth 2018; adalwyd 20 Tachwedd 2024
  8. Y Bywgraffiadur Ar-lein; adalwyd 05 Rhagfyr 2014
  9. "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. Cyrchwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
  10. Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
  11. Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.
  12. Gwefan Llywodraeth Cymru; Ystadegau Economaidd Allweddol, Tachwedd 2010; Mae'r gyfradd gyflogaeth ymhlith pobl 16 – 64 oed yng Nghymru yn 67.1 y cant.; adalwyd 31 Mai 2013[dolen farw]

Dolenni allanol

Kembali kehalaman sebelumnya